Smooth Trend

Dewiswch eich opsiynau isod ac wrth i chi ddewis pob un, bydd yr opsiynau eraill yn eu diweddaru eu hunain. Os oes testun cymorth ar gael ar gyfer pob mewnbwn, cliciwch ar y ddolen "help" ar yr ochr.
Cliciwch ar safle o'ch dewis.
Enw'r Safle

Cliciwch ar safle o'ch dewis. Mae'r offeryn hwn yn gallu plotio sawl safle gyda'i gilydd. I ddewis safleoedd lluosog, yn gyntaf dewiswch safle sengl, ac yna pwyso'r fysell CTRL a chlicio safleoedd ychwanegol yr un pryd.

Cliciwch ar newidyn o'ch dewis.
Newidynnau

Cliciwch ar lygrydd o'ch dewis. Bydd y llygryddion sydd ar gael yn dibynnu ar ddewisiadau'r paramedrau eraill (e.e. ystod safleoedd a dyddiadau a ddewiswyd). Mae'r offeryn wedi'i gyfyngu i blotio un llygrydd ar y tro.

Ystod Dyddiadau
Dewiswch gofnodi naill ai 'Dyddiadau Penodol' neu 'Flynyddoedd Penodol'.
Ystod Dyddiadau

Dewiswch gofnodi naill ai 'Dyddiadau Penodol' neu 'Flynyddoedd Penodol'. Mae 'Dyddiadau Penodol' yn eich galluogi i ddewis diwrnod, mis a blwyddyn er mwyn dechrau a gorffen eich dadansoddiad. Bydd 'Blynyddoedd Penodol' yn eich galluogi i wneud dewis cyflym o flynyddoedd sydd o ddiddordeb i chi a bydd y gwaith dadansoddi yn cychwyn ar 1 Ionawr ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr ar gyfer y blynyddoedd a ddewiswyd.

Dyddiadau y mae ar gael
01/08/2007 - 31/12/2022
Math

Defnyddiwch y gwymplen hon i ddewis sut rydych am i'ch data gael eu haddasu. Bydd yr opsiwn rhagosodiad yn cynhyrchu plot sengl sy'n cwmpasu'r ystod gyfan o ddata. Bydd dewis 'Awr' yn cynhyrchu plot unigol ar gyfer pob un o'r 24 awr gydol y diwrnod ac felly'n helpu i gynrychioli gwahaniaethau dyddiol. Bydd dewis 'Diwrnod yr Wythnos' yn cynhyrchu plot unigol ar gyfer pob dydd o'r wythnos ac felly mae'n ddefnyddiol wrth amlygu'r gwahaniaethau gydol yr wythnos waith a'r penwythnosau. Bydd dewis 'Tymor' yn rhannu'r plot yn dymhorau priodol gan ddangos tueddiadau o dymor i dymor. Bydd dewis 'Cyfeiriad y Gwynt' yn rhannu plotiau'r tueddiadau yn wyth sector pwynt cwmpawd gan ddefnyddio cyfeiriad y gwynt wedi'i fodelu o ragolygon ansawdd aer y DU.

Heb fod yn dymhorol

Bydd ticio'r opsiwn hwn yn addasu'r plot er mwyn cyfrif am amrywiadau tymhorol a gyfrifwyd yn ystadegol. Os na ddewisir yr opsiwn hwn, yna bydd plot sengl o'r data gwreiddiol yn cael ei blotio.