Diffiniadau Data Openair

Caiff yr holl ddata eu cadarnhau. Caiff yr holl unedau eu mynegi mewn termau más ar gyfer rhywogaethau nwyol (ug/m3 ar gyfer NO, NO2, NOx (fel NO2), SO2 a mg/m3 ar gyfer CO).

Caiff crynodiadau PM10 eu darparu mewn unedau gafimetrig o ug/m3 neu eu rhoi ar raddfeydd cymharol â'r unedau hyn. Dros y blynyddoedd defnyddiwyd amrywiaeth o offerynnau i fesur deunydd gronynnol ac mae'r materion technegol sy'n gysylltiedig â mesur PM10 yn gymhleth. Mewn blynyddoedd diweddar, mae'r mesuriadau'n dibynnu ar FDMS (Filter Dynamics Measurement System), sy'n gallu mesur elfen anweddol PM. Os defnyddir system FDMS, bydd elfen anweddol ar wahân yn cael ei chofnodi fel 'v10', sydd eisoes wedi'i chynnwys yn y mesuriad PM10 absoliwt.

Cyn defnyddio FDMS, roedd y mesuriadau'n defnyddio TEOM (Tapered Element Oscillating. Microbalance) ac mae'r crynodiadau hyn wedi'u lluosi â 1.3 er mwyn rhoi amcangyfrif o gyfanswm y más gan gynnwys y ffracsiwn anweddol. Mae'r ychydig offerynnau BAM (Beta-Attenuation Monitor) sydd wedi'u hymgorffori i'r rhwydwaith gydol ei hanes wedi'u chwyddo 1.3 os oes ganddynt fewnfa boeth (er mwyn cyfrif am golli gronynnau anweddol) a'u lleihau 0.83 os nad oes ganddynt fewnfa boeth. Mae'r ychydig o offerynnau TEOM sydd yn y rhwydwaith ar ôl 2008 wedi'u rhoi ar raddfa yn ôl gwerthoedd VCM (Volatile Correction Model) er mwyn cyfrif am golli gronynnau anweddol.

Diben yr holl raddfeydd hyn yw sicrhau y gellir gwneud cymhariaeth resymol rhwng setiau data a'r dull cyfeirio, a llunio cofnod data cyson dros gyfnod gweithredol y rhwydwaith. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o ddiffyg dilyniant yn y gyfres amser sy'n gysylltiedig â'r newid mewn offerynnau.

Mae mesuriadau PM2.5 yn debyg i PM10, ac eithrio nad oes unrhyw ffactorau cywiro wedi'u gwneud i unrhyw ddata PM2.5 waeth beth yw'r offeryn. Caiff elfen anweddol PM2.5 (lle mae ar gael) ei dangos yn y golofn 'v2.5'.