Telerau ac Amodau

Datblygwyd y wefan hon gan Ricardo Energy & Environment, ar ran Llywodraeth Cymru. Mae i’w gweld orau mewn porwr gwe modern. Efallai na fydd fersiynau hŷn o Internet Explorer yn cefnogi holl nodweddion y wefan yn llawn.

Manylion Cysylltu

Os hoffech gysylltu â ni’n uniongyrchol, anfonwch e-bost atom yn: Welshairquality@ricardo.com

Ymwadiad Cynnwys

Datblygwyd y tudalennau gwe hyn gan Ricardo Energy & Environment o dan gontract gyda Llywodraeth Cymru. Gall unrhyw atgynhyrchu o fapiau, graffeg, adroddiadau, ffeiliau a thestun a gaiff eu cynnwys yma ar gyfer defnydd masnachol fod yn destun hawlfraint, a dylid cyfeirio ceisiadau am ddefnydd o’r fath at Welshairquality@ricardo.com i’w hystyried. Mae unrhyw ddata a lawrlwythir o’r tudalennau hyn ar gael yn rhwydd i’w ddefnyddio gan y cyhoedd, gyda chydnabyddiaeth o’r wefan hon fel ffynhonnell.

Darperir y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y wefan hon yn ddidwyll ac ni fydd Ricardo Energy & Environment na Llywodraeth Cymru’n atebol am unrhyw iawndal, yn cynnwys rhai sy’n deillio o ddata, elw neu refeniw a gollwyd, costau adennill data o’r fath, costau data amgen, hawliadau gan drydydd parti neu am gostau tebyg eraill sy’n deillio o’r defnydd o’r data.
Mae’r meddalwedd a’r cronfeydd data sy’n cefnogi’r wefan hon yn eiddo i Ricardo Energy & Environment a Llywodraeth Cymru.