Ystod DyddiadauDewiswch gofnodi naill ai 'Dyddiadau Penodol' neu 'Flynyddoedd Penodol'. Mae 'Dyddiadau Penodol' yn eich galluogi i ddewis diwrnod, mis a blwyddyn er mwyn dechrau a gorffen eich dadansoddiad. Bydd 'Blynyddoedd Penodol' yn eich galluogi i wneud dewis cyflym o flynyddoedd sydd o ddiddordeb i chi a bydd y gwaith dadansoddi yn cychwyn ar 1 Ionawr ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr ar gyfer y blynyddoedd a ddewiswyd.
Newidynnau YMae'r opsiwn hwn yn eich galluogi i ddewis y newidyn a ddefnyddir ar gyfer echel y. 'Awr' yw'r rhagosodiad, er mwyn dangos y tueddiad dyddiol yn y cyfeiriad-y. Mae'r dewisiadau eraill yn cynnwys 'Diwrnod yr Wythnos' gan ddangos tueddiadau o ddiwrnodau gwaith i'r penwythnosau. Bydd 'Cyfeiriad y Gwynt' yn dangos tueddiadau ar draws wyth sector pwynt cwmpawd a bydd 'Cyflymder y Gwynt' yn dangos y tueddiad yn ôl pedwar chwartel gan ddefnyddio cyfeiriad neu gyflymder y gwynt wedi'i fodelu o ragolygon ansawdd aer y DU a all fod yn ddefnyddiol i nodi ffynonellau penodol.