Ystod DyddiadauDewiswch gofnodi naill ai 'Dyddiadau Penodol' neu 'Flynyddoedd Penodol'. Mae 'Dyddiadau Penodol' yn eich galluogi i ddewis diwrnod, mis a blwyddyn er mwyn dechrau a gorffen eich dadansoddiad. Bydd 'Blynyddoedd Penodol' yn eich galluogi i wneud dewis cyflym o flynyddoedd sydd o ddiddordeb i chi a bydd y gwaith dadansoddi yn cychwyn ar 1 Ionawr ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr ar gyfer y blynyddoedd a ddewiswyd.
MathDefnyddiwch y gwymplen hon i ddewis sut rydych am i'ch data gael eu rhannu. Bydd yr opsiwn rhagosodiad yn cynhyrchu plot sengl yn cwmpasu ystod gyfan y data. Bydd dewis 'Awr' yn cynhyrchu plot unigol ar gyfer pob un o oriau'r diwrnod ac felly'n helpu i gynrychioli gwahaniaethau dyddiol. Bydd dewis 'Mis' yn cynhyrchu plot unigol ar gyfer pob mis o'r flwyddyn ac felly mae'n ddefnyddiol wrth amlygu gwahaniaethau gydol y flwyddyn. Bydd dewis 'Tymor' yn rhannu'r plot yn dymhorau priodol gan ddangos tueddiadau o dymor i dymor.
YstadegauDefnyddiwch y gwymplen Ystadegau i ddewis yr ystadegyn i'w ddefnyddio ar gyfer gosod holl gyflymderau a chyfeiriadau'r gwynt. Mae'r dewisiadau 'Cymedr' (yr opsiwn rhagosodiad), 'Canolrif', 'Uchafswm', 'Amledd', 'Gwyriad Safonol' a 'Cymedr Wedi'i Bwysoli' ar gael; oherwydd y dull llyfnhau GAM a ddefnyddiwyd nid yw'r allbwn yn cynrychioli lefelau absoliwt y crynodiadau. Mae'r opsiwn 'Cymedr Wedi'i Bwysoli' yn cael ei gynhyrchu o'r crynodiad a'i luosi â pha mor aml y mae'n digwydd. Gall fod yn ddefnyddiol amlygu pa gyflymder a chyfeiriad y gwynt sy'n cyfrannu fwyaf at y lefel cymedrig.