Data ac Ystadegau
Croeso i Gronfa Ddata ac Ystadegau a Data Ansawdd Aer Cymru. Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys dewisiadau ar gyfer adfer data ar Ansawdd Aer yng Nghymru o'r cyfnod presennol yn ðl i 1986. Mae'r gronfa ddata yn cynnwys tablau o ystadegau a data crynodiad mesuredig o'r safleoedd monitro ansawdd aer sy'n cael eu gweithredu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac aelodau eraill o Fforwm Ansawdd Aer Cymru. Gellir cael amcangyfrifon o allyriadau y swm o lygredd sy'n cael ei gynhyrchu gan amrywiaeth o weithgareddau o'r Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol
Mae'r ystadegau crynodiad ac allyriadau a nodir yn y gronfa ddata hon yn Ystadegau Cenedlaethol. Mae Ystadegau Cenedlaethol yn cael eu cynhyrchu i safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Cenedlaethol. Maent yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau ansawdd er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y cwsmeriaid. Nid oes unrhyw ddylanwad gwleidyddol arnynt. Mae Ystadegau Cenedlaethol pellach ar gael gan Is-adran Ystadegau Diogelu'r Amgylchedd a Rheoli Gwybodaeth Defra (EPSIM) yn https://www.gov.uk/government/organisations/department-for-environment-food-rural-affairs/about/statistics