Scatter Plot

Dewiswch eich opsiynau isod ac wrth i chi ddewis pob un, bydd yr opsiynau eraill yn eu diweddaru eu hunain. Os oes testun cymorth ar gael ar gyfer pob mewnbwn, cliciwch ar y ddolen "help" ar yr ochr.
Cliciwch ar safle o'ch dewis.
Enw'r Safle

Cliciwch ar safle o'ch dewis. Mae'r offeryn hwn wedi'i gyfyngu i blotio un safle ar y tro.

Cliciwch ar newidyn o'ch dewis.
Newidynnau

Cliciwch ar newidyn o'ch dewis. Bydd y llygryddion sydd ar gael yn dibynnu ar ddewisiadau'r paramedrau eraill (e.e. ystod safleoedd a dyddiadau a ddewiswyd). Mae'r offeryn hwn wedi'i gyfyngu i blotio hyd at 2 o newidynnau gyda'i gilydd. I ddewis pob newidyn, dewiswch un yn gyntaf ac yna pwyso'r fysell CTRL wrth ddewis y llall.

Dewiswch 2 newidyn uchod
Newidyn Echel X

Dewiswch pa newidyn fydd yn gysylltiedig ag echel x.

Dewiswch 2 newidyn uchod
Newidyn Echel Y

Dewiswch pa newidyn fydd yn gysylltiedig ag echel y.

Ystod Dyddiadau
Dewiswch gofnodi naill ai 'Dyddiadau Penodol' neu 'Flynyddoedd Penodol'.
Ystod Dyddiadau

Dewiswch gofnodi naill ai 'Dyddiadau Penodol' neu 'Flynyddoedd Penodol'. Mae 'Dyddiadau Penodol' yn eich galluogi i ddewis diwrnod, mis a blwyddyn er mwyn dechrau a gorffen eich dadansoddiad. Bydd 'Blynyddoedd Penodol' yn eich galluogi i wneud dewis cyflym o flynyddoedd sydd o ddiddordeb i chi a bydd y gwaith dadansoddi yn cychwyn ar 1 Ionawr ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr ar gyfer y blynyddoedd a ddewiswyd.

Dyddiadau y mae ar gael
01/08/2007 - 31/12/2022
Math

Defnyddiwch y gwymplen hon i ddewis sut rydych am i'ch data gael eu rhannu. Bydd yr opsiwn rhagosodiad yn cynhyrchu plot sengl yn cwmpasu ystod gyfan y data. Bydd dewis 'Diwrnod yr Wythnos' yn cynhyrchu plot unigol ar gyfer pob dydd o'r wythnos ac felly mae'n ddefnyddiol wrth amlygu'r gwahaniaethau gydol yr wythnos waith a'r penwythnosau. Bydd dewis 'Mis' yn dangos deuddeg plot, un ar gyfer bob mis, gan helpu i gael syniad o newidiadau tymhorol gydol y flwyddyn. Bydd dewis 'Tymor' yn rhannu'r data yn dymhorau priodol gan ddangos unrhyw amrywiaeth o dymor i dymor. Bydd dewis 'Cyfeiriad y Gwynt' yn rhannu plotiau'r tueddiadau yn wyth sector pwynt cwmpawd, a bydd dewis 'Cyflymder y Gwynt' yn eu rhannu yn bedwar chwartel gan ddefnyddio cyfeiriad neu gyflymder y gwynt wedi'i fodelu o ragolygon ansawdd aer y DU a all fod yn ddefnyddiol i nodi ffynonellau penodol.

Dull

Dewiswch y dull ar gyfer llunio'r plot gwasgariad. Bydd 'Scatter' yn cynhyrchu plot gwasgariad lle mae pob cyfuniad x ac y sy'n cyfateb yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio pwynt ar y plot. Mae 'Hexbin' yn ddefnyddiol pan fo'r set data yn sylweddol; yn y plot rhoddir data mewn celloedd hecsagonal ac mae'r raddfa liwiau yn cynrychioli faint o bwyntiau data sydd wedi'u hepgor. Mae 'Density' yn cynhyrchu delwedd dau ddimensiwn llyfn o'r cysylltiad rhwng y newidynnau x ac y, a gyfrifir gan ddefnyddio dull amcangyfrif 'density kernel'.

Gosod Linear Trend

Opsiwn sy'n ychwanegu model llinol i'r plot gwasgariad gyda hafaliad y llinell a gwerth R2. Rhaid dewis 'Scatter' i gael y model hwn.

Gosod Smooth Line

Opsiwn sy'n ychwanegu model llyfnhau i'r data sylfaenol gydag amcangyfrif o gyfryngau hyder 95% (graddliwio llwyd); gall y llyfnhau fod yn hynod ddefnyddiol i werthuso os yw'r cysylltiad rhwng y newidynnau yn aflinol. Rhaid dewis 'Scatter' i gael y model hwn.

Lliwiau

Dewiswch o amrywiaeth o dempledi lliw penodol. Rhaid dewis 'Hexbin' neu 'Density' i gael templed lliw.