Time Plot

Dewiswch eich opsiynau isod ac wrth i chi ddewis pob un, bydd yr opsiynau eraill yn eu diweddaru eu hunain. Os oes testun cymorth ar gael ar gyfer pob mewnbwn, cliciwch ar y ddolen "help" ar yr ochr.
Cliciwch ar safle o'ch dewis.
Enw'r Safle

Cliciwch ar safle o'ch dewis. Mae'r offeryn hwn yn gallu plotio sawl safle gyda'i gilydd. I ddewis safleoedd lluosog, yn gyntaf dewiswch safle sengl, ac yna pwyso'r fysell CTRL a chlicio safleoedd ychwanegol yr un pryd. Os ydych yn dewis sawl safle, byddwch yn cael eich cyfyngu i ddewis llygrydd sengl isod.

Cliciwch ar newidyn o'ch dewis.
Gallwch ddewis hyd at 10 newidynnau
Newidynnau

Cliciwch ar newidyn o'ch dewis. Bydd y llygryddion sydd ar gael yn dibynnu ar ddewisiadau'r paramedrau eraill (e.e. ystod safleoedd a dyddiadau a ddewiswyd). Mae'r offeryn hwn wedi'i gyfyngu i blotio hyd at 10 o newidynnau gyda'i gilydd. I ddewis newidynnau lluosog, dewiswch un yn gyntaf ac yna pwyso'r fysell CTRL a dewis newidynnau ychwanegol yr un pryd. Os ydych wedi dewis safleoedd lluosog, dim ond llygrydd unigol y bydd modd i chi ei ddewis.

Ystod Dyddiadau
Dewiswch gofnodi naill ai 'Dyddiadau Penodol' neu 'Flynyddoedd Penodol'.
Ystod Dyddiadau

Dewiswch gofnodi naill ai 'Dyddiadau Penodol' neu 'Flynyddoedd Penodol'. Mae 'Dyddiadau Penodol' yn eich galluogi i ddewis diwrnod, mis a blwyddyn er mwyn dechrau a gorffen eich dadansoddiad. Bydd 'Blynyddoedd Penodol' yn eich galluogi i wneud dewis cyflym o flynyddoedd sydd o ddiddordeb i chi a bydd y gwaith dadansoddi yn cychwyn ar 1 Ionawr ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr ar gyfer y blynyddoedd a ddewiswyd.

Dyddiadau y mae ar gael
01/08/2007 - 31/12/2022
Math

Defnyddiwch y gwymplen hon i ddewis sut rydych am i'ch data gael eu rhannu. Bydd yr opsiwn rhagosodiad yn cynhyrchu plot sengl yn cwmpasu ystod gyfan y data. Os dewisir safleoedd lluosog, caiff y ddewislen ei guddio, a chynhyrchir plotiau lluosog wedi'u rhannu yn ôl safle. Bydd dewis 'Awr' yn cynhyrchu plot unigol ar gyfer pob un o oriau'r diwrnod ac felly'n helpu i gynrychioli gwahaniaethau dyddiol. Bydd dewis 'Diwrnod yr Wythnos' yn cynhyrchu plot unigol ar gyfer pob dydd o'r wythnos ac felly mae'n ddefnyddiol wrth amlygu'r gwahaniaethau gydol yr wythnos waith a'r penwythnosau. Bydd dewis 'Mis' yn dangos deuddeg plot, un ar gyfer bob mis, gan helpu i gael syniad o'r newidiadau tymhorol gydol y flwyddyn. Bydd dewis 'Cyfeiriad y Gwynt' yn rhannu plotiau'r tueddiadau yn wyth sector pwynt cwmpawd, a bydd dewis 'Cyflymder y Gwynt' yn eu rhannu'n bedwar chwartel gan ddefnyddio cyfeiriad neu gyflymder y gwynt wedi'i fodelu o ragolygon ansawdd aer y DU a all fod yn ddefnyddiol i nodi ffynonellau penodol.

Amser Cyfartalog

Dewiswch gyfnod cyfartalog i'w blotio o'r gwymplen. Mae cyfartalion yn ôl yr awr, y diwrnod a chyfartalion wythnosol, misol a thymhorol yn bosibl. Gosodwyd trothwy cipio data o 75% ar gyfer cyfartalu.

Lliwiau

Dewiswch o amrywiaeth o dempledi lliw penodol.

Gosod yn ôl Blwyddyn

Os oes sawl blwyddyn o ddata wedi'u dewis, mae'r opsiwn hwn yn dangos blwyddyn ar y tro, gan ei gwneud yn haws gweld manylder yn y plotiau.

Normaleiddio

Mae'r opsiwn hwn yn eich galluogi i gymharu tueddiadau llygryddion sydd â graddfeydd crynodiadau gwahanol iawn (er enghraifft NOX, gyda CO) yn yr un plot. Caiff y newidynnau eu rhannu yn ôl eu gwerth cymedrig er mwyn eu normaleiddio.