Polisi cwcis a phreifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

Mae’r wybodaeth hon am y polisi preifatrwydd yn cwmpasu gwefan ac apiau Ansawdd Aer Cymru. Mae preifatrwydd yn bwysig iawn i ni a dim ond at y diben a ddisgrifir y byddwn yn defnyddio data a gesglir.

Os ydych chi’n cofrestru i dderbyn y bwletinau diweddaraf ar ansawdd aer Cymru o’r wefan, mae yna dudalen Telerau ac Amodau a allai fod o ddiddordeb i chi hefyd. I ddefnyddwyr, dim ond dull adnabod y ddyfais unigol a’r rhanbarthau rydych chi’n dewis derbyn rhybuddion yn eu cylch, y mae’r gwasanaeth bwletin ansawdd aer diweddaraf yn eu storio. Os byddwch yn diffodd rhybuddion, ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw gan y system.

Os byddwch yn gofyn am gael data wedi’i e-bostio i’ch cyfeiriad e-bost, mae’r cyfeiriad e-bost rydych chi’n ei roi yn cael ei gofnodi a’i gadw gan wefan Ansawdd Aer Cymru er mwyn prosesu’ch cais am ddata. Ni ddefnyddir y cyfeiriad e-bost a gofnodir at unrhyw ddiben arall, ac ni chaiff ei ddatgelu i unrhyw drydydd parti byth.

Gall y polisi preifatrwydd hwn newid wrth i’r wefan ddatblygu, felly dylech fwrw golwg ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd.

Cwcis – cyflwyniad

Er mwyn helpu i ddarparu’r wybodaeth ar y wefan hon mewn ffordd hygyrch a hawdd ei defnyddio, gall ychydig o wybodaeth gael ei rhoi ar eich dyfais, er enghraifft, cyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys ffeiliau bach o’r enw cwcis. Ni ellir eu defnyddio i’ch adnabod chi’n bersonol.

Defnyddir y wybodaeth i wella’r wefan a chaiff ei chasglu drwy fesur faint o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau fel y gellir eu gwneud yn haws i’w defnyddio a bod digon o gapasiti i sicrhau eu bod yn gyflym.

Gallwch reoli’r ffeiliau bach hyn a dysgu mwy amdanynt o’r erthygl Internet Browser cookies - what they are and how to manage them.

Os hoffech chi ddysgu sut i dynnu cwcis oddi ar eich dyfais, ewch i wefan About Cookies.

Cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon

Y wefan gyffredinol

Gosodir cwci sy’n cofnodi a yw’r pennawd hysbysu am gwcis wedi’i weld yn barod.

Enw Cynnwys Nodweddiadol Dod i ben
wedi_gweld_pennawd Gwir neu gau 6 mis

Mesur defnydd o’r wefan (Google Analytics)

Mae’r wefan yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth am y ffordd mae pobl yn ei defnyddio. Rydym yn gwneud hyn i wneud yn siŵr ei bod yn diwallu anghenion ei defnyddwyr ac i ddeall sut y gallem wneud hynny’n well.

Mae Google Analytics yn cadw gwybodaeth am ba dudalennau rydych chi’n edrych arnynt, faint o amser rydych chi ar y wefan, sut y daethoch yma a beth rydych chi’n clicio arno. Nid ydym yn casglu nac yn cadw’ch gwybodaeth bersonol (e.e. eich enw neu’ch cyfeiriad) felly ni ellir defnyddio’r wybodaeth hon i’ch adnabod chi. Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu’n data dadansoddol.

Gosodir y cwcis canlynol gan Google Analytics:

Enw Cynnwys Nodweddiadol Dod i ben
_utma rhif a gynhyrchir ar hap dwy flynedd
_utmb rhif a gynhyrchir ar hap 30 munud
_utmc rhif a gynhyrchir ar hap pan fyddwch chi’n cau’ch porwr
_utmz rhif a gynhyrchir ar hap a gwybodaeth am sut y cyrhaeddwyd y safle (e.e. yn uniongyrchol neu drwy ddolen, chwiliad organig neu chwiliad am dâl)

chwe mis

Sut i reoli a dileu cwcis

Ni fyddwn yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi y gellid ei defnyddio i’ch adnabod.

Fodd bynnag, os ydych chi’n dymuno cyfyngu neu rwystro’r cwcis a osodir gan ein gwefannau, neu, yn wir, unrhyw wefan arall, gallwch wneud hyn trwy osodiadau eich porwr. Dylai’r swyddogaeth ‘Help’ yn eich porwr ddweud wrthych chi sut i wneud hynny.

Fel arall, efallai y byddwch am fwrw golwg ar www.aboutcookies.org sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr ar sut i wneud hyn ar amrywiaeth eang o borwyr. Hefyd, gallwch weld manylion ar sut i ddileu cwcis o’ch peiriant yn ogystal â gwybodaeth fwy cyffredinol am gwcis.

Cofiwch y gall cyfyngu ar gwcis effeithio ar sut mae’ch gwefan yn gweithio.

Cytuno terms i’r telerau
Trwy dicio’r bocs hwn, rydych chi’n cytuno eich bod yn hapus i ni storio eich cyfeiriad e-bost ar ein cronfeydd data. Ni chaiff y data hwn ei ddefnyddio’n unman arall na’i drosglwyddo i unrhyw bartïon eraill.