Cyflwyniad i Openair
Mae Openair yn darparu offer arloesol yn rhad ac am ddim sy'n ffynhonnell agored ar gyfer dadansoddi, dehongli a deall data llygredd aer gan ddefnyddio R -iaith rhaglennu rhad ac am ddim sy'n ffynhonnell agored wedi'i chynllunio ar gyfer dadansoddi data. Gellir defnyddio'r offer Openair sydd ar gael ar y wefan hon i greu dadansoddiadau cymhleth ac arloesol o ddata cyfredol ac o archifau o lygredd aer o'r AURN, gan ei gwneud yn bosibl gweld a chwestiynu'r data cadarn hwn am y tro cyntaf. Mae'r wefan hon yn ei gwneud yn hawdd lawrlwytho'r allbynnau graffigol hyn o Openair ar ffurf dogfennau parod.
Datblygwyd y pecyn Openair yn bennaf ar gyfer dadansoddi setiau data llygredd aer, gyda'r gallu i ymdrin â lefel sylweddol o ddata; mae'r AURN yn ddelfrydol ar gyfer y gwaith hwn yn sgil ei brofiad ym maes cofnodi data. Un o gryfderau pellach offer Openair yw eu bod yn ei gwneud yn bosibl addasu data gydag un neu fwy o newidynnau. Er enghraifft, gellir cynhyrchu plotiau sy'n dangos y rhyng-gysylltiadau rhwng llygryddion aer a pharamedrau meteorolegol, neu dueddiadau o ran amser sy'n amrywio dros gyfnodau gwahanol fel yn ystod oriau'r dydd, diwrnodau'r wythnos, misoedd y flwyddyn, ac ati, na fyddai'n amlwg fel arall.
Mae gwefan Openair yn cynnwys disgrifiad llawn o'r holl swyddogaethau yn ogystal â lawrlwythiadau a chanllawiau er mwyn helpu defnyddwyr i ddefnyddio'r offer gyda'u data eu hunain. Mae UK-AIR yn darparu mynediad wedi'i symleiddio i'r wefan i ddetholiad wedi'i addasu o offer Openair, wedi'i ddiweddaru i gynnwys datblygiadau diweddar i Openair gan gynnwys offer sydd angen data meteorolegol er mwyn rhedeg. Er mwyn rhoi offer ar waith sydd angen data meteorolegol, mae data o fodelau o gyflymder y gwynt a chyfeiriad y gwynt a gynhyrchwyd ar gyfer rhagolygon ansawdd aer y DU bellach ar gael ynghyd â'r data ar gyfer llygryddion aer a fesurwyd.
Mae'r offer ar-lein yn ei gwneud hi'n bosibl dadansoddi ac adolygu data awtomatig o'r AURN gan ddefnyddio Openair heb fod angen gosod a chynnal R ac Openair yn lleol. I ddefnyddwyr sydd am gael rheolaeth lawn dros ansawdd/ffurf eu dadansoddiadau a'u hallbwn, rydym yn argymell gosod R ac Openair yn lleol a chaffael data fel gwrthrychau data R o'r wefan hon. Drwy wneud hyn, gall y defnyddiwr ddewis a rhagweld y data o'u dewis gan ddefnyddio'r offer ar-lein cyn ei lawrlwytho i'w ddadansoddi ymhellach yn yr amgylchedd R. Ar y llaw arall, gellir mewnforio data yn uniongyrchol o'r wefan hon yn gyflym drwy ddefnyddio swyddogaeth mewnforio AURN pwrpasol Openair fel y disgrifir yng nghanllawiau Openair.
Dalier Sylw: Mae'r modelau data tywydd a ddarparwyd ar wefan UK-AIR i'w ddefnyddio gydag offer Openair wedi'u creu dan gontract darogan ansawdd aer Defra a Gweinyddiaethau Datganoledig y DU. Caiff data'r modelau eu diweddaru'n ddyddiol.
Defnyddir cydraniad grid 10 km x 10 km ar gyfer modelu amodau meteorolegol y DU ar gyfer darogan ansawdd aer. Mae hyn yn golygu bod y data yn cynrychioli amodau synoptig rhanbarthol yn lleoliad pob safle monitro ansawdd aer yn y DU, ond nid ydynt yn rhoi cyfrif am unrhyw fanylion am amgylchedd y safle lleol. Dylid defnyddio'r data yn ofalus, felly, wrth ddadansoddi data lleol neu mewn astudiaethau modelu. Fodd bynnag, mae'n rhoi dewis arall o ran data meteorolegol a fesurir sy'n bodoli'n aml gryn bellter o safle monitro'r AQ.
Bydd defnyddwyr sy'n defnyddio'r data hyn yn gwneud hynny ar eu menter eu hun gan ddilyn yr amodau a'r telerau ar gyfer defnyddio'r wefan hon.