Rheoli Ansawdd Aer Lleol

Mae Adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob Awdurdod Lleol adolygu’r ansawdd aer yn ei ardal ar hyn o bryd, a’r ansawdd aer tebygol i’r dyfodol. Mae Adran 83 yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddynodi ardal rheoli ansawdd aer (AQMA) pan nad yw amcan ansawdd aer cenedlaethol yn cael ei gyflawni, neu os yw’n annhebygol y bydd yn cael ei gyflawni. Yna, mae Adran 84 yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdod Lleol ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer yr AQMA.

Diwygiodd Llywodraeth Cymru y drefn rheoli ansawdd aer lleol (LAQM) yng Nghymru yn 2017 trwy gyhoeddi canllawiau polisi statudol newydd er mwyn sicrhau bod y drefn yn cyfateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyma rai o’r pwyntiau allweddol o’r canllawiau newydd:

  • Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Awdurdodau Lleol yng Nghymru ddilyn y pum ffordd o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth gynnal y drefn rheoli ansawdd aer lleol.
  • Dylai ein nod hirdymor ar gyfer ansawdd aer fod yn ddeublyg, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r amcanion ansawdd aer cenedlaethol mewn mannau lle mae’r llygredd ar ei waethaf ac er mwyn lleihau amlygiad y boblogaeth i lygredd yn ehangach, gan sicrhau’r llesiant iechyd gorau posibl i’r cyhoedd.
  • Diben y drefn rheoli ansawdd aer lleol yw gwella iechyd ac ansawdd bywyd ar gyfer pobl. Bydd y gwelliant hwn i iechyd ac ansawdd bywyd yn well o lawer os gellir sicrhau seinweddau gwell ochr yn ochr â gostyngiadau o ran llygredd aer.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu’r gwaith o ddarparu atebion sy’n seiliedig ar natur i wella ein cryfder cymdeithasol, ecolegol ac economaidd. Dylid rhoi ystyriaeth briodol i atebion o’r fath wrth ddatblygu unrhyw gynllun neu strategaeth i ymdrin â llygredd aer a/neu sŵn ar lefel leol neu ranbarthol.
  • Dylai cynlluniau a pholisïau Awdurdodau Lleol ar gyfer newid hinsawdd ac ansawdd aer fod yn gyson ac yn integredig lle y bo’n briodol er mwyn manteisio i’r eithaf ar synergeddau posibl ac osgoi unrhyw wrthdaro posibl.
  • Ochr yn ochr ag integreiddio ansawdd aer â pholisïau amgylcheddol eraill, mae integreiddio polisi rhyngadrannol yn hanfodol, yn arbennig mewn perthynas â chynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth.
  • Dylai swyddogion ansawdd aer Awdurdodau Lleol weithio gyda gweithwyr iechyd ac iechyd cyhoeddus proffesiynol i integreiddio’r drefn rheoli ansawdd aer lleol yn effeithiol gyda mentrau lleol eraill gyda’r nod o leihau risgiau ac anghydraddoldebau iechyd mewn cymunedau yr effeithir arnynt.
  • Dylai Awdurdodau Lleol neu grwpiau rhanbarthol o Awdurdodau Lleol gynhyrchu adroddiad cynnydd blynyddol drafft ar ansawdd aer erbyn diwedd mis Medi, a ysgrifennwyd ar gyfer y cyhoedd cyffredinol ac yn dilyn templed a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a chyhoeddi’r adroddiad terfynol cyn i’r flwyddyn ddod i ben.
  • Dylai cymunedau lleol gael eu cynnwys yn y broses o’r cychwyn wrth ddatblygu cynllun gweithredu ansawdd aer lleol. Ni ddylai Awdurdodau Lleol aros nes bod y cynllun yn bodoli ar ffurf drafft cyn gofyn am eu mewnbwn. O fewn 18 mis o ddatgan neu ymestyn ardal rheoli ansawdd aer, dylid cyflwyno cynllun weithredu drafft a lywiwyd gan gyfranogiad y gymuned leol i’w archwilio gan Lywodraeth Cymru.
  • Wrth weithio tuag at lesiant cenedlaethau’r dyfodol, dylai Awdurdodau Lleol ystyried yn arbennig y risgiau hirdymor i fabanod a phlant sydd ynghlwm wrth amlygiad i lygredd aer, boed hynny yn eu cartrefi, yn eu hysgolion a’u meithrinfeydd, neu wrth deithio rhwng y ddau le.
  • Dylai unrhyw gynlluniau gweithredu ansawdd aer lleol newydd neu wedi’u  diweddaru o 2017 ymlaen nodi sut y bwriedir mynd i’r afael â chamau gweithredu nid yn unig gyda’r bwriad o gyflawni cydymffurfiaeth dechnegol ag amcanion ansawdd aer cenedlaethol, ond hefyd gyda’r nod o fanteisio i’r eithaf ar eu cyfraniad at leihau lefelau cyffredinol o nitrogen deuocsid, deunydd gronynnol a llygredd sŵn amgylcheddol ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol, er mwyn sicrhau’r budd mwyaf o ran iechyd y cyhoedd.