Time Variation

Dewiswch eich opsiynau isod ac wrth i chi ddewis pob un, bydd yr opsiynau eraill yn eu diweddaru eu hunain. Os oes testun cymorth ar gael ar gyfer pob mewnbwn, cliciwch ar y ddolen "help" ar yr ochr.
Cliciwch ar safle o'ch dewis.
Enw'r Safle

Cliciwch ar safle o'ch dewis. Mae'r offeryn hwn yn gallu plotio sawl safle gyda'i gilydd. I ddewis safleoedd lluosog, yn gyntaf dewiswch safle sengl, ac yna pwyso'r fysell CTRL a chlicio safleoedd ychwanegol yr un pryd.

Cliciwch ar newidyn o'ch dewis.
Newidynnau

Cliciwch ar newidyn o'ch dewis. Bydd y llygryddion sydd ar gael yn dibynnu ar ddewisiadau'r paramedrau eraill (e.e. ystod safleoedd a dyddiadau a ddewiswyd). Mae'r offeryn hwn wedi'i gyfyngu i blotio hyd at 10 o newidynnau gyda'i gilydd. I ddewis newidynnau lluosog, dewiswch un yn gyntaf ac yna pwyso'r fysell CTRL a dewis newidynnau ychwanegol yr un pryd.

Ystod Dyddiadau
Dewiswch gofnodi naill ai 'Dyddiadau Penodol' neu 'Flynyddoedd Penodol'.
Ystod Dyddiadau

Dewiswch gofnodi naill ai 'Dyddiadau Penodol' neu 'Flynyddoedd Penodol'. Mae 'Dyddiadau Penodol' yn eich galluogi i ddewis diwrnod, mis a blwyddyn er mwyn dechrau a gorffen eich dadansoddiad. Bydd 'Blynyddoedd Penodol' yn eich galluogi i wneud dewis cyflym o flynyddoedd sydd o ddiddordeb i chi a bydd y gwaith dadansoddi yn cychwyn ar 1 Ionawr ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr ar gyfer y blynyddoedd a ddewiswyd.

Dyddiadau y mae ar gael
01/08/2007 - 31/12/2022
Normaleiddio

Mae'r opsiwn hwn yn eich galluogi i gymharu tueddiadau llygryddion sydd â graddfeydd crynodiadau gwahanol iawn (er enghraifft NOX, gyda CO) yn yr un plot. Caiff y newidynnau eu rhannu yn ôl eu gwerth cymedrig er mwyn eu normaleiddio.

Cyfwng Hyder

Cyfwng Hyder. Os yw'r opsiwn hwn yn cael ei ddewis, yna mae'r graddliwio lliw (sy'n cynrychioli'r cyfrwng hyder 95%) ar gyfer pob llygrydd yn cael ei ddangos. Os yw llygryddion lluosog yn cael eu dewis yn yr un plot, efallai y byddai'n fwy defnyddiol dileu'r opsiwn hwn er mwyn dangos llinellau'r tueddiadau yn well.