Gwasanaeth Gwybodaeth

Mynegai a Bandiau

Yn y DU, mae´r rhan fwyaf o wasanaethau gwybodaeth llygredd aer yn defnyddio system fynegai a bandiau a gymeradwywyd gan y Pwyllgor ar Effeithiau Meddygol Llygryddion Aer (COMEAP). Mae´r system yn defnyddio mynegai 1-10 wedi´i rannu yn bedwar band i roi mwy o fanylion am lefelau llygredd aer mewn dull syml, yn debyg i´r mynegai haul neu´r mynegai paill.

  • 1-3 (Isel)
  • 4-6 (Cymedrol)
  • 7-9 (Uchel)
  • 10 (Uchel Iawn)

Caiff y mynegai llygredd aer cyffredinol ar gyfer safle neu ranbarth ei gyfrif o´r crynodiad uchaf o bum llygrydd:

  • Nitrogen deuocsid
  • Sylffwr deuocsid
  • Osôn
  • Gronynnau PM2.5
  • Gronynnau < 10µm (PM10)

Rhagolygon Llygredd Aer

Mae Rhagolygon Ansawdd Aer yn cael eu cyhoeddi fesul rhanbarth ar gyfer tri gwahanol fath o ardal:

  • Mewn trefi a dinasoedd sy´n agos at ffyrdd prysur
  • Mannau eraill mewn trefi a dinasoedd
  • Ardaloedd gwledig

Mae rhagolygon yn seiliedig ar ragweld mynegai llygredd aer ar gyfer yr achos gwaethaf posib o´r pum llygrydd a restrwyd uchod, ym mhob rhanbarth.