Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol

Sut i ddefnyddio´r Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol

Cam 1: Cyfle i weld a ydych chi (neu´ch plant) yn debygol o fod mewn perygl o lygredd aer. Darperir gwybodaeth am grwpiau a allai gael eu heffeithio ar y dudalen Gwybodaeth ychwanegol am effeithiau. Efallai y bydd eich meddyg hefyd yn gallu rhoi cyngor i chi.

Cam 2: Os ydych yn debygol o fod mewn perygl, ac yn bwriadu cynnal gweithgareddau egnïol yn yr awyr agored llygredd aer forcast.

Cam 3: Defnyddiwch y negeseuon iechyd sy´n cyfateb i´r rhagolygon lefel uchaf o lygredd fel arweiniad.

Bandiau a mynegeion llygredd aer µ/m³

Llygryddion Band Isel Cymedrol Uchel Uchel Iawn
Mynega 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10
Osôn - cymedr 8 awr µg/m³ 0-33 34-66 67-100 101-120 121-140 141-160 161-187 188-213 214-240 241 or more
Nitrogen deuocsid - cymedr yr awr µg/m³ 0-67 68-134 135-200 201-267 268-334 335-400 401-467 468-534 535-600 601 or more
Sylffwr deuocsid - cymedr 15 munud µg/m³ 0-88 89-177 178-266 267-354 355-443 444-532 533-710 711-887 888-1064 1065 or more
Gronynnau PM2.5 - cymedr 24 awr µg/m³ 0-11 12-23 24-35 36-41 42-47 48-53 54-58 59-64 65-70 71 or more
Gronynnau < 10µm - cymedr 24 awr µg/m³ 0-16 17-33 34-50 51-58 59-66 67-75 76-83 84-91 92-100 101 or more

Mae gan bob band ddisgrifydd iechyd sy'n seiliedig ar ein dealltwriaeth gyfredol ac astudiaethau ymchwil (yr Adran Iechyd). Mae'r disgrifyddion cyfredol isod.

Bandiau llygredd aer ac effeithiau disgrifwyr iechyd ar dderbynyddion sensitif
Air Llygredd Aer Gwerth Negeseuon iechyd cysylltiedig ar gyfer grwpiau mewn perygl a´r cyhoedd
Unigolion mewn perygl* Y Cyhoedd
Isel 1-3 Mwynhewch eich gweithgareddau awyr agored arferol. Mwynhewch eich gweithgareddau awyr agored arferol.
Cymedrol 4-6 Dylai oedolion a phlant sydd â phroblemau ysgyfaint, ac oedolion â phroblemau´r galon, sy´n profi symptomau, ystyried lleihau eu gweithgarwch corfforol egnïol arferol, yn enwedig yn yr awyr agored. Mwynhewch eich gweithgareddau awyr agored arferol.
Uchel 7-9 Dylai oedolion a phlant sydd â phroblemau ysgyfaint, ac oedolion â phroblemau´r galon, ystyried lleihau eu gweithgarwch corfforol egnïol arferol, yn enwedig yn yr awyr agored, ac yn enwedig os ydynt yn profi symptomau. Efallai y bydd pobl sydd ag asthma yn gorfod defnyddio eu hanadlydd yn amlach. Dylai pobl hŷn lleihau eu gweithgarwch corfforol. Dylai unrhyw un sy´n profi anghysur fel dolur llygaid neu ddolur gwddf ystyried lleihau eu gweithgarwch, yn enwedig yn yr awyr agored.
Uchel Iawn 10 Dylai oedolion a phlant sydd â phroblemau ysgyfaint, oedolion â phroblemau´r galon, a phobl hŷn, osgoi gweithgarwch corfforol egnïol. Efallai y bydd pobl sydd ag asthma yn gorfod defnyddio eu hanadlydd yn amlach. Dylech leihau eich gweithgarwch corfforol, yn enwedig yn yr awyr agored, yn enwedig os ydych yn profi symptomau fel pesychu neu ddolur gwddf.

*Mae oedolion a phlant sydd â phroblemau´r galon neu ysgyfaint mewn mwy o berygl o symptomau. Dilynwch gyngor arferol eich meddyg ynglŷn ag ymarfer corff a rheoli eich cyflwr. Mae´n bosibl y gall unigolion sensitif iawn brofi effeithiau iechyd hyd yn oed ar ddiwrnodau llygredd aer Isel. Dylai unrhyw un sy´n profi symptomau ddilyn y canllawiau a ddarperir ar y dudalen Gwybodaeth ychwanegol.