Polisi

Mae rheoli ansawdd aer yn flaenoriaeth iechyd y cyhoedd ac amgylcheddol, a rhaid cymryd camau i wella’r aer mae pobl yn ei anadlu ac mae’r amgylchedd naturiol yn dod i gysylltiad ag ef, a hynny yn rhyngwladol, yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol. Mae sector cyhoeddus Cymru yn sicrhau gwelliannau mewn ansawdd aer mewn sawl ffordd, yn cynnwys drwy reoli ansawdd aer yn lleol, cynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth, trwyddedau amgylcheddol, teithio llesol, buddsoddi mewn technolegau glanach, ac addysg a chodi ymwybyddiaeth.
Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru angen rheoli ansawdd aer a sŵn yn unol â’r phum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”). Mae hyn yn golygu:

  • edrych ar yr hirdymor wrth wneud penderfyniadau fel nad ydym ni’n cyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau;
  • gweithredu mewn modd integredig, fel cyfuno camau i leihau llygredd aer a sŵn gyda chamau i wella diogelwch ffyrdd, gwneud trafnidiaeth yn fwy cynaliadwy, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella’r amgylchedd adeiledig gyda choed a gwrychoedd mewn mannau priodol;
  • manteisio ar bob cyfle i sgwrsio â’r cyhoedd, yn cynnwys busnesau, am yr heriau sy’n gysylltiedig â llygredd aer a sŵn, gwrando ar eu pryderon a holi am eu barn ar atebion posibl a’u cynnwys yn y gwaith o’u cyflawni;
  • cydweithio rhwng gweithwyr proffesiynol ym meysydd yr amgylchedd, iechyd y cyhoedd, trafnidiaeth a chynllunio ac eraill i ganfod atebion cynaliadwy cyffredin i broblemau ansawdd aer a sŵn; a
  • chadw cysylltiad â llygredd aer a sŵn mor isel ag sy’n ymarferol bosibl ar draws y boblogaeth gyfan, gan edrych yn benodol ar ardaloedd lle gallai’r amcanion cenedlaethol ar gyfer ansawdd aer fod mewn perygl o gael eu torri, lle gallai niwsans gael ei greu, neu le gallai lefelau fynd y tu hwnt i’r llwyth critigol ar gyfer bywyd gwyllt rywbryd yn y dyfodol ac achub y blaen ar hyn i atal y sefyllfaoedd hynny rhag digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mapiau llygredd awyrol integredig yn dangos yr ardaloedd o Gymru lle mae lefelau llygredd aer a sŵn ar eu huchaf.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud cysylltiad y boblogaeth â llygredd aer yn un o’r dangosyddion cenedlaethol o dan Ddeddf 2015.