Effeithiau

Effeithiau Llygredd Aer

Mae gweithgareddau dynol a phrosesau naturiol yn rhyddhau cemegion i´r atmosffer ac yn gallu llygru aer. Unwaith y bydd cemegion yn yr atmosffer maent yn destun prosesau atmosfferig amrywiol sy´n rheoli eu hynt, ac yn gallu newid eu ffurf gemegol a ffisegol. Mae´r prosesau hyn felly yn dylanwadu´n fawr ar effaith amgylcheddol derfynol cemegion sy´n cael eu rhyddhau i´r atmosffer.

Gall effeithiau llygredd aer amrywio o ansawdd aer gwael yn ardal yn agos i´r ffynhonnell, i amharu ar gylchoedd cemegol a phrosesau ffisegol naturiol sy´n digwydd ar raddfa fyd-eang. Mae´r nodweddion sy´n gysylltiedig -gwahanol effeithiau amgylcheddol rhai o´r prif lygryddion wedi´u nodi yn y tabl isod.

Effeithiau lleol

Llygrydd Nodweddion y llygrydd Effaith amgylcheddol
Plwm, cyfansoddion organig anweddol, sylffwr deuocsid, ocsidiau nitrogen, carbon monocsid, bensen, 1,3-biwtadÏen, gronynnau Mân*.

Caiff y cemegion hyn eu rhyddhau yn uniongyrchol i´r atmosffer ac fe´u gelwir yn brif lygryddion.

(Mae NO2 yn eithriad gan ei fod yn llygrydd eilaidd yn bennaf, yn cael ei ffurfio´n gyflym o NO sy´n cael ei ryddhau i´r atmosffer)

Gwaethygu ansawdd aer lleol - effeithio ar iechyd pobl a thwf planhigion, ac achosi niwed i ddeunyddiau.

Effeithiau rhanbarthol

Llygrydd Nodweddion y llygrydd Effaith amgylcheddol
Sylffwr deuocsid, ocsidiau nitrogen, asid hydroclorig. Ar ôl rhyddhau i´r atmosffer gall y cyfansoddion hyn gael eu dyddodi´n agos at eu ffynhonnell. Fel arall, gall adweithiau cemegol eu newid yn gyfansoddion asidig eraill sy´n gallu cael eu cludo am bellter hir cyn dyddodi i´r wyneb. Dyddodiad asid -arwain at ddirywiad amgylchedd y ddaear.
Osôn, perocsiasetylnitrad.

Caiff y cemegion hyn eu galw´n llygryddion eilaidd am eu bod yn cael eu ffurfio gan adweithiau sy´n cynnwys y prif lygryddion (gweler uchod).

Mae crynodiadau uwch o´r cyfansoddion hyn i´w gweld gan fod cylchoedd cemegol naturiol yn cael eu heffeithio gan weithrediad golau haul ar grynodiadau uwch o gyfansoddion organig anweddol ac osidau nitrogen.

Mae effeithiau yn digwydd i ffwrdd o´r ffynhonnell fel rheol, gan fod yr adweithiau cemegol yn cymryd amser i gynhyrchu´r ocsidyddion.

Ocsidyddion ffotogemegol - gwaethygu ansawdd aer lleol (fel uchod).
Gronynnau Mân (<2.5µm diamedr fel rheol) Yn wahanol i brif ronynnau, sy´n cael eu rhyddhau yn uniongyrchol gan wahanol brosesau, mae gronynnau eilaidd yn ffurfio yn yr atmosffer yn sgil adweithiau cemegol yn cynnwys SO2 ac NOx yn bennaf. Gall y gronynnau eilaidd yma deithio cryn bellter. Gronynnau eilaidd yn ffurfio -effeithio ar iechyd pobl

Effeithiau byd-eang

Llygrydd Nodweddion y llygrydd Effaith amgylcheddol
Carbon deuocsid, methan, ocsid nitraidd, halocarbonau.

Mae´r cemegion hyn yn gwaredu´n araf o´r atmosffer ac felly mae eu crynodiadau yn parhau i gynyddu gan fod eu cyfradd allyriant yn fwy na´u cyfradd gwaredu.

Gall pob cemegyn amsugno ymbelydredd ton hir yn effeithiol, sy´n golygu bod yr atmosffer yn cynhesu.

Mwy o effaith ty gwydr -arwain at fwy o newid yn yr hinsawdd.
Halocarbonau. Gall y cemegion hyn grynhoi yn yr atmosffer fel y nwyon ty gwydr uchod. Maent yn parhau yn yr atmosffer am gyfnod digon hir i gael eu cludo i ran uchaf yr atmosffer, lle mae´r 'haen osôn-amddiffynnol wedi crynhoi. Gallant amharu ar adweithiau cemegol naturiol, gan achosi mwy o ddifrod i´r osôn. Difa´r osôn stratosfferig - achosi mwy o ymbelydredd UV ar wyneb y ddaear

*gall gronynnau Mân fod yn brif lygryddion a llygryddion eilaidd.