Safonau ac amcanion ansawdd aer

Mae amcanion ansawdd aer cenedlaethol Cymru yn cynrychioli trothwyon pragmataidd, ac os ydynt yn cael eu croesi, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â llygredd aer yn annerbyniol. Fodd bynnag, ni ddylai aer sy’n cydymffurfio â’r amcanion o drwch blewyn gael ei ystyried yn aer ‘glân’ ac mae’n peri risgiau iechyd hirdymor o hyd. Po isaf y crynodiad o lygryddion fel nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol, po isaf y risgiau o effeithiau iechyd andwyol yn y boblogaeth sy’n dod i gysylltiad â nhw. Felly, er bod cydymffurfio â’r amcanion ansawdd aer cenedlaethol yn hanfodol, mae’n ddymunol cadw lefelau llygredd mor isel ag sy’n ymarferol bosibl.

Amcanion ansawdd aer cenedlaethol sydd wedi’u cynnwys yn Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) 2002

Llygrydd Amcan ansawdd aer cenedlaethol
Crynodiad Dull mesur
Bensen 16.25 µg/m3 cymedr blynyddol parhaus
 

5 µg/m3

cymedr blynyddol
1,3-biwtadien 2.25 µg/m3 cymedr blynyddol parhaus
Carbon monocsid 10 mg/m3 uchafswm cymedr 8-awr parhaus dyddiol
Plwm 0.25 µg/m3 cymedr blynyddol
Nitrogen deuocsid ni ddylai fynd tu hwnt i 200 µg/m3 fwy na 18 gwaith mewn blwyddyn cymedr 1-awr
  40 µg/m3 cymedr blynyddol
Gronynnau (PM10) (grafimetrig) ni ddylai fynd tu hwnt i 50 µg/m3 fwy na 35 gwaith mewn blwyddyn cymedr 24-awr
  40 µg/m3
(canllaw WHO yw 20 µg/m3)
cymedr blynyddol
Sylffwr deuocsid ni ddylai fod yn uwch na 266 µg/m3, fwy na 35 gwaith mewn blwyddyn cymedr 15-munud
  ni ddylai fod yn uwch na 350 µg/m3, fwy na 24 gwaith mewn blwyddyn cymedr 1-awr
 

ni ddylai fod yn uwch na 125 µg/m3, fwy na 3 gwaith mewn blwyddyn

(canllaw WHO yw 20 µg/m3)

cymedr 24-awr

Safonau ansawdd aer eraill sy’n berthnasol i iechyd pobl

Llygrydd Terfyn neu werth targed yr EU
Concentration Measured as
Arsenig 6 ng/m3 cyfartaledd cyfanswm cynnwys yn y ffracsiwn PM10 dros flwyddyn galendr
Bensopyren 1 ng/m3 cyfartaledd cyfanswm cynnwys yn y ffracsiwn PM10 dros flwyddyn galendr
Cadmiwm 5 ng/m3 cyfartaledd cyfanswm cynnwys yn y ffracsiwn PM10 dros flwyddyn galendr
Nicel 20 ng/m3 cyfartaledd cyfanswm cynnwys yn y ffracsiwn PM10 dros flwyddyn galendr
Oson

ni ddylai fod yn uwch na 120 μg/m3 fwy na 25 diwrnod y flwyddyn ar gyfartaledd dros dair blynedd


(canllaw WHO yw 100 μg/m3)

 

uchafswm cymedr 8-awr parhaus dyddiol

Gronynnau (PM2.5)
(grafimetrig)

25 μg/m3

(canllaw WHO yw 10 μg/m3)

 

cymedr blynyddol