Lleoliadau Safleoedd Monitro

Caiff safleoedd monitro eu dosbarthu yn ôl y math o amgylchedd. Bydd hyn yn rhoi syniad da o ba lygryddion sy’n debygol o gael eu canfod yma e.e. Nitrogen Deuocsid os oes traffig trwm.

Mae lleoliadau monitro nodweddiadol yn cael eu disgrifio yn y tabl isod.

Lleoliad

Disgrifiad Dylanwadau ffynhonnell

Trefol

Safle mewn amgylchedd tref neu ddinas

Cerbydau, masnachol, gwresogi gofod

Ochr cyrbau

Safle sy’n samplu o fewn 1m i gwrb ffordd brysur

Traffig lleol

Ochr ffyrdd

Safle sy’n samplu rhwng 1m o ochr cyrbau ffordd brysur a chefn y pafin. Bydd hyn o fewn 5m i’r ffordd, ond gallai fod hyd at 15m

Traffig lleol

Maestrefol

Math o leoliad sydd wedi’i leoli mewn ardal breswyl ar gyrion tref neu ddinas

Traffig, masnachol, gwresogi gofod, trafnidiaeth ranbarthol, colofn o lygryddion trefol i gyfeiriad y gwynt o’r ddinas

Cefndir Trefol

Lleoliad trefol i ffwrdd o ffynonellau felly'n cynrychioli amodau cefndir dinesig yn fras e.e. ardaloedd preswyl trefol

Cerbydau, masnachol, gwresogi gofod

Canolfan Drefol

Lleoliad trefol sy'n cynrychioli cysylltiad poblogaeth nodweddiadol yng nghanol trefi neu ddinasoedd e.e. llefydd i gerddwyr yn unig ac ardaloedd siopa

Cerbydau, masnachol, gwresogi gofod

Trefol Diwydiannol

Ardal lle mae ffynonellau diwydiannol yn gwneud cyfraniad pwysig at y llwyth llygredd cyfan. Canolradd. 20-30m o gwrb ffordd brysur

Diwydiannol, cerbydau modur

Gwledig

Lleoliad gwledig yn yr awyr agored, mewn ardal o boblogaeth isel mor bell i ffwrdd â phosib o ffyrdd, ardaloedd poblog a diwydiannol

Trafnidiaeth ranbarthol â chwmpas pell, colofn llygryddion trefol

Pell

Safle yng nghefn gwlad agored, mewn ardal wledig anghysbell, sy'n profi crynodiadau llygredd cefndir rhanbarthol am lawer o'r amser

Cefndir rhanbarthol/hemisfferig

Canolradd

Samplu safle o fewn 1m i ochr ffordd brysur

Cerbydau, masnachol, gwresogi gofod

Maes Awyr

Monitro o fewn ffin perimedr maes awyr

Awyrennau, cerbydau, masnachol, gwresogi gofod

Arall

Unrhyw gategori lleoliad neu ffynhonnell arbennig yn cwmpasu monitro a wneir mewn perthynas â ffynonellau allyriadau penodol

Gall fod yn orsafoedd pŵer, meysydd parcio neu dwneli