Ffynonellau llygredd

Gall llygredd aer gael ei ffurfio drwy brosesau naturiol a phrosesau gwneud. Dyma rai  enghreifftiau ohonynt:

Ffynonellau Naturiol

Mae rhai o’r ffynonellau naturiol o lygredd aer yn gyfansoddion organig o blanhigion, halen môr, priddoedd a llwch crog (e.e. o’r Sahara).

Mae ffynonellau naturiol eraill yn cael eu rhyddhau yn ystod argyfyngau fel echdoriadau llosgfynyddoedd a thanau coedwig. Mae llawer iawn o nwyon a mwg niweidiol yn cael eu rhyddhau sy’n gallu cynyddu lefelau llygredd cefndir am flynyddoedd – hyd yn oed mewn ardaloedd ymhell i ffwrdd o’r ffynhonnell wreiddiol. Oson yw un o’r llygryddion aer naturiol mwyaf cyffredin.

Ffynonellau Gwneud

Trafnidiaeth – Ffyrdd a Rheilffyrdd

Mae cerbydau fel ceir, faniau, bysiau a loris yn rhedeg ar betrol a diesel. Pan gaiff y tanwyddau hyn eu llosgi yn yr injan, caiff llygryddion eu rhyddhau o egsôst cerbydau. Mae hyn yn golygu mai traffig ffordd yw un o’r ffynonellau mwyaf o lygredd aer yng Nghymru. Ger ffyrdd prysur y prif lygryddion yw nitrogen ocsidau, carbon monocsid a deunydd gronynnol. Mae cerbydau mwy ag injans mwy yn rhyddhau mwy o lygredd i’r atmosffer.

Mae trenau’n achosi llai o lygredd o lawer na’r un daith mewn car. Fodd bynnag, mae trenau’n dal i lygru’r amgylchedd. Mae trenau trydan yn defnyddio’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu mewn gorsafoedd pŵer. Pan gaiff y tanwyddau hyn eu llosgi, caiff llygryddion fel ocsidau nitrogen, sylffwr deuocsid a deunydd gronynnol eu rhyddhau i’r atmosffer.

Amaethyddiaeth

Mae anifeiliaid fel gwartheg a defaid yn rhyddhau llawer iawn o fethan drwy dorri gwynt. Mae methan yn nwy di-liw sy’n cael ei gynhyrchu yn eu stumogau wrth i facteria ddadelfennu’r bwyd maent yn ei fwyta. Ar draws y byd, da byw yw’r ffynhonnell fwyaf o fethan. Methan yw’r nwy tŷ gwydr pwysicaf ond un sy’n gallu achosi newid hinsawdd.

Diwydiant a Chynhyrchu Pŵer

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol yn y 1800au cafodd llawer o ffatrïoedd  eu hadeiladu ger y trefi a’r dinasoedd mawrion. Heddiw mae’r prif ganolfannau diwydiannol yn tueddu i fod yng nghefn gwlad i ffwrdd o’r dinasoedd. Nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid yw’r prif lygryddion sy’n gysylltiedig â phrosesau diwydiannol. I gynhyrchu trydan mae tanwyddau fel glo, nwy ac olew yn cael eu llosgi mewn gorsafoedd pŵer. Pan gaiff y tanwyddau hyn eu llosgi maent yn rhyddhau ocsidau nitrogen, sylffwr deuocsid a deunydd gronynnol yn ogystal â nwyon tŷ gwydr sy’n gallu achosi newid hinsawdd.

Gwastraff

Yn y DU, methan o waredu gwastraff yw’r allyrrydd mwyaf, gydag amaethyddiaeth a da byw yn ail. Caiff methan ei ryddhau i’r atmosffer pan fydd y gwastraff rydym ni’n ei daflu yn dadelfennu. Methan yw’r nwy tŷ gwydr pwysicaf heblaw carbon deuocsid, sy’n golygu ei fod yn cyfrannu at newid hinsawdd hefyd.

Oeddech chi’n gwybod?

  • Caiff mwy o lygryddion peryglus eu rhyddhau i’r aer bob blwyddyn nag sy’n cael eu rhyddhau i ddŵr wyneb, dŵr daear, a’r tir gyda’i gilydd.
  • Amcangyfrifir bod llygredd aer awyr agored trefol yn achosi 1.3 miliwn o farwolaethau bob blwyddyn.
  • Gall echdoriadau folcanig chwydu symiau mawr o sylffwr deuocsid i’r atmosffer. A dweud y gwir, llosgfynyddoedd oedd prif ffynhonnell sylffwr deuocsid yn yr atmosffer ers talwm; pobl yw’r brif ffynhonnell heddiw.