Sut rydym ni’n monitro llygredd aer?

Caiff llygredd aer ei fonitro ar safleoedd penodol ledled Cymru 24 awr y dydd. Mae sawl gwahanol ffordd o samplu’r aer i weld pa mor llygredig ydyw.

Mae 5 prif ddull o samplu ansawdd aer:

1

Monitro Goddefol

  • Mae tiwbiau tryledol yn amsugno llygrydd penodol o’r aer amgylchynol – nid oes angen cyflenwad pŵer
  • Mae tiwbiau tryledol yn monitro am 2-4 wythnos ar y tro fel rheol
  • Rhaid anfon y tiwbiau i labordai i’w dadansoddi i weld faint o lygredd maen nhw wedi ei ganfod
  • Samplu lled-awtomatig
2

Samplu Gweithredol (Lled Awtomatig)

  • Mae dadansoddwr yn tynnu aer amgylchynol drwy hidlydd am gyfnod penodol o amser e.e. un hidlydd y dydd
  • Yna mae’r hidlyddion yn cael eu casglu a’u hanfon i labordy i gael eu dadansoddi i weld faint o lygredd maent wedi’u canfod
  • Pwynt monitro awtomatig
3

Monitro pwynt awtomatig

  • Caiff aer amgylchynol ei dynnu drwy ddadansoddwr sy’n adnabod y nwy sydd wedi’i ddewis ac yn cyfrifo crynodiad y nwy hwnnw
  • Mae safleoedd awtomatig yn monitro llygryddion 24 awr y dydd
4

Systemau ffotocemegol a synhwyrydd optegol

  • Offerynnau monitro symudol sy’n gallu monitro ystod o lygryddion yn barhaus. Nid yw’r synwyryddion yn sensitif iawn ac maent yn fwyaf addas ar gyfer nodi ardaloedd crynodiad uchel ar ochr ffyrdd a ger ffynonellau.
  • Gall data gael ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur a’i ddadansoddi.
5

Monitro llwybr hir/optegol o bell

  • Mae’r dull hwn o samplu yn canfod llygredd rhwng ffynhonnell olau a synhwyrydd sy’n cael eu gosod ar wahân ar safle
  • Gellir cymryd mesuriadau amser real gyda’r math hwn o samplu.
  • Gall data gael ei anfon o’r dadansoddwr yn uniongyrchol i’ch cyfrifiadur, sy’n golygu bod modd ei weld ar unwaith.