Mae lefelau uchel iawn o lygredd aer yn gallu cael effeithiau negyddol ar bawb yn y teulu o’ch brawd neu chwaer fach i’ch mam-gu a’ch tad-cu. Amcangyfrifir eich bod chi’n anadlu 20,000 litr o aer bob dydd. Felly, po fwyaf llygredig yw’r aer, mwya’n byd o gemegau peryglus rydym ni’n eu hanadlu i mewn i’n hysgyfaint.
Mae babanod a phlant bach yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan lygredd aer oherwydd:
- eu bod nhw’n anadlu’n gyflymach nag oedolion
- bod eu system ysgyfaint ac imiwnedd yn datblygu
Mae ysgyfaint, system imiwnedd ac ymennydd plant yn parhau i ddatblygu’n gyflym nes eu bod tua 6 oed, ac mae’r haen o gelloedd sy’n leinio’r bibell resbiradol yn arbennig o athraidd yn ystod yr oedran hwn, sy’n golygu bod llygredd yn cael ei amsugno’n hawdd. O gymharu ag oedolion, mae arwyneb ysgyfaint plant yn fwy o gymharu â phwysau’r corff, ac maent yn anadlu 50% yn fwy o aer am bob cilogram o’u pwysau.
Bydd oedolion ifanc yn cael eu heffeithio gan ansawdd aer gwael os oes ganddynt unrhyw gyflyrau’r ysgyfaint neu’r galon. Mae’r rheini sy’n byw mewn dinasoedd â chysylltiad uchel â llygryddion aer yn wynebu risg uwch o ddatblygu asthma, niwmonia a heintiau resbiradol is eraill.
Gall rhieni a rhieni cu gael eu heffeithio gan lygredd aer hefyd. Wrth i bobl heneiddio, mae eu cyrff yn colli’r gallu i wneud yn iawn am effeithiau llygredd. Gall ansawdd aer gwael waethygu unrhyw broblemau iechyd sy’n bodoli’n barod fel asthma a phroblemau’r galon.
Oson a Deunydd Gronynnol (PM) (yn enwedig llygredd gronynnau mân, llai o’r enw PM2.5) sydd â’r potensial mwyaf o effeithio ar iechyd oedolion hŷn. Mae cysylltiad rhwng llygredd gronynnau mân ag ymosodiadau asthma, trawiad ar y galon a datblygu broncitis cronig. Gall oson, hyd yn oed ar lefelau isel, waethygu clefydau resbiradol.