Adroddiadau

Cyhoeddi adroddiad 2019 ar Lygredd Aer yng Nghymru

Published Date: 22/10/2020

Mae’n dda gennym gyhoeddi bod yr adroddiad blynyddol diweddaraf ar ansawdd aer yng Nghymru wedi’i gyhoeddi.

Mae’r adroddiad yn cynnwys gweithgarwch Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 2019 a datblygiadau polisi pwysig ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf yn 2019. Fel arfer, rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisïau yn ogystal â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2019.

Eleni, mae’r maes diddordeb arbennig yn edrych ar effeithiau Covid-19 ar ansawdd aer Cymru. Mae’r bennod ar iechyd yn edrych ar adnodd newydd asesu risg Iechyd y Cyhoedd ar gyfer ansawdd aer awyr agored yng Nghymru.

Dadansoddiad o effaith cyfyngiadau symud Covid-19 ar Ansawdd Aer lleol yng Nghymru

Published Date: 06/08/2020

Ar ôl cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru, fe aeth Llywodraeth Cymru ati i gomisiynu adolygiad o’r effaith ar ansawdd aer yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Mae’n dda gennym gyhoeddi dadansoddiad cychwynnol o’r data hwn gan Rwydwaith Ansawdd Aer Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Mai 2020, ynghyd â dadansoddiad o’r data o safbwynt iechyd y cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad cychwynnol yn amlinellu tueddiadau mewn data Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10, PM2.5 a Charbon Du yn ystod cyfnod yr adroddiad.

 

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol newydd ar gyfer 2018

Published Date: 07/11/2019

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cyhoeddi’r adroddiad ansawdd aer blynyddol diweddaraf ar gyfer Cymru.

Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i weithgarwch Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 2018 a datblygiadau polisi pwysig yn 2018. Fel arfer, rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisi, ynghyd â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2018.

Mae maes o ddiddordeb arbennig eleni yn edrych ar allyriadau mater gronynnol nad ydynt yn wacáu - her gynyddol. Mae'r bennod iechyd yn edrych ar ymgorffori iechyd y cyhoedd mewn rheoli ansawdd aer yn lleol.