Adroddiadau

Adroddiadau ar gyfer 2016

Published Date: 06/11/2017

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cyhoeddi’r adroddiad ansawdd aer blynyddol diweddaraf ar gyfer Cymru.

Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i weithgarwch Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 2016 a datblygiadau polisi pwysig yn 2016. Fel arfer, rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisi, ynghyd â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2016.

Y maes diddordeb arbennig eleni yw’r defnydd o lystyfiant i leihau llygredd aer. Mae yna bennod ychwanegol ar iechyd hefyd, sy’n edrych ar lygredd aer ac anghydraddoldebau iechyd.

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol newydd ar gyfer 2015

Published Date: 19/10/2016

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cyhoeddi´r adroddiad ansawdd aer blynyddoedd diweddaraf ar gyfer Cymru.

Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i weithgarwch Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 2015 a datblygiadau polisi pwysig yn 2015. Fel arfer, rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisi, ynghyd â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2015.

Y maes diddordeb arbennig eleni yw dangosyddion ansawdd aer Cymru. Mae yna bennod ychwanegol hefyd sy’n trafod effaith ansawdd aer yng Nghymru ar iechyd y cyhoedd.

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol newydd ar gyfer 2014

Published Date: 29/10/2015

Eleni, rydym yn dathlu 20 mlynedd o Fforwm Ansawdd Aer Cymru. Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i’r llwyddiannau polisi ers 1990, gan drafod darnau pwysig o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd dros y 25 mlynedd diwethaf sy’n parhau i roi perthnasedd a diben i’r grŵp. Rydym wedi rhoi sylw hefyd i ddatblygiadau Fforwm Ansawdd Aer Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan gynnwys cynnydd mewn monitro amser real a gwelliannau sylweddol i adnoddau’r wefan sydd wedi arwain at fwy o gymhwysedd a chapasiti yn y maes.

Fel arfer, rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisi, ynghyd â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2014.