Mae’n dda gennym gyhoeddi bod yr adroddiad blynyddol diweddaraf ar ansawdd aer yng Nghymru wedi’i gyhoeddi.
Mae’r adroddiad yn cynnwys gweithgarwch Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 2021 a datblygiadau polisi pwysig ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf yn 2021. Fel arfer, rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisïau yn ogystal â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2021.
Eleni, mae ein hadroddiad ar bwnc o ddiddordeb arbennig canolbwyntio ar gynllun grant Rheoli Ansawdd Aer Lleol cyntaf Cymru a lansiwyd ym mlwyddyn ariannol 2021 – 2022.
Mae'r bennod ar iechyd yn rhoi adolygiad o Ansawdd Aer ac Iechyd y Cyhoedd yn 2021.