Adroddiadau

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol newydd ar gyfer 2014

Published Date: 29/10/2015

Eleni, rydym yn dathlu 20 mlynedd o Fforwm Ansawdd Aer Cymru. Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i’r llwyddiannau polisi ers 1990, gan drafod darnau pwysig o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd dros y 25 mlynedd diwethaf sy’n parhau i roi perthnasedd a diben i’r grŵp. Rydym wedi rhoi sylw hefyd i ddatblygiadau Fforwm Ansawdd Aer Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan gynnwys cynnydd mewn monitro amser real a gwelliannau sylweddol i adnoddau’r wefan sydd wedi arwain at fwy o gymhwysedd a chapasiti yn y maes.

Fel arfer, rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisi, ynghyd â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2014.