Mapiau

Cyfunwyd data rhwydweithiau monitro ansawdd aer yng Nghymru â data gollyngiadau llygredd Rhestr Gollyngiadau Atmosfferig Cenedlaethol (NAEI) y DU er mwyn paratoi mapiau manwl (1km) o'r lefelau llygredd cyfartalog neu frig, ledled y wlad. Mae'r mapiau a nodir isod - wedi'u graddnodi a'u gwirio yn erbyn data monitro'r DU a Chymru - yn dangos yr ardaloedd â phroblemau llygredd a'r ffordd fwyaf uniongyrchol a chost-effeithiol o reoli problemau ansawdd aer.

Ynglŷn â’r map ansawdd aer amgylchynol hwn

Mae’r adnodd rhyngweithiol hwn yn eich galluogi i archwilio data crynodiadau ansawdd aer amgylchynol o fodel Mapio Hinsawdd Llygredd Cenedlaethol Defra.

Defnyddiwch y bar offer uchod i symud rhwng gwahanol haenau.

Mae’r adnodd map hwn wedi’i ddylunio ar gyfer cysylltiadau rhyngrwyd cyflym a phorwyr gwe modern; gall fod yn arafach mewn porwyr hŷn (megis Internet Explorer 8 neu is).

** Nodiadau Pwysig:

Mae asesiad cydymffurfio blynyddol y DU yn seiliedig ar waith modelu a monitro, felly ni fydd dadansoddi’r canlyniadau modelu yn yr adnodd GIS yn unig yn cynhyrchu’r canlyniad cydymffurfio cyffredinol fel y’i hadroddir i’r Comisiwn bob blwyddyn.

Ar gyfer cymhariaeth â Gwerthoedd Terfyn a Tharged y Gyfarwyddeb Ewropeaidd, dylai data gael ei dalgrynnu i gyfanrifau ar gyfer pob llygrydd, ac eithrio data ar gyfer Cadmiwm a BaP, a ddylai gael ei dalgrynnu i 1 pwynt degol.

Mae data PM10 cyn 2004 yn TEOM (‘tapered element oscillating microbalance’), tra bod data o 2004 ymlaen yn ddata cyfwerth â grafimetrig.

Nid oes unrhyw fapiau CO ar ôl 2010. Oherwydd crynodiadau isel a aseswyd gan Defra ledled y DU, nid oes angen modelu’r llygrydd hwn mwyach.

Gall data allyriadau gael ei archwilio gyda mapiau’r Rhestr Allyriadau Atmosfferig Cenedlaethol.

Gwybodaeth drwyddedu

Mae’r holl lawrlwythiadau data ar gael ac yn cael eu trwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. Mae setiau data a mapiau sylfaenol yn cynnwys gwybodaeth o’r canlynol:

  • Data Arolwg Ordnans © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata
  • Data’r Post Brenhinol © Hawlfraint y Post Brenhinol a hawliau cronfa ddata
  • Data Ystadegau Gwladol © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata

© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata wedi’u trwyddedu o dan Gytundeb Mapio Sector Cyhoeddus Defra gydag Arolwg Ordnans (Rhif y drwydded: 100022861) a’r Land and Property Services Department (Gogledd Iwerddon) MOU206. Gweler hefyd Data Agored Arolwg Ordnans.

Cael help i ddefnyddio’r adnodd hwn

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r adnodd hwn, anfonwch e-bost i aqinfo@ricardo.com

Filter by network