Gwasanaethau Data Agored

Defnyddir y wefan i sicrhau bod yr holl ddata ar ansawdd aer sy’n cael ei gasglu a’i reoli yng Nghymru ar gael i bawb sy’n defnyddio’r data. Mae’r wefan wedi’i gwella’n sylweddol, ac erbyn hyn mae’n cydymffurfio â Chyfarwyddeb INSPIRE. O ganlyniad, mae modd rhannu data Ansawdd Aer â defnyddwyr “dynol” a pheiriannau a thechnoleg awtomatig.

Mae Cyfarwyddeb INSPIRE yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sefydlu amrywiaeth o wasanaethau ar y we (systemau’r rhyngrwyd â swyddogaeth benodol) i gyhoeddi setiau data amgylchedd gofodol. Mae gan y gwasanaethau dri amcan:

  • Sicrhau bod modd dod i hyd i setiau data (Gwasanaeth Darganfod) h.y. sut i ddod o hyd i’r data. Erbyn hyn, mynegir setiau data ansawdd aer fel gwrthrychau data y mae modd dod o hyd iddynt drwy’r catalog data ar y gwefannau https://data.gov.uk/data/search​ a https://uk-air.defra.gov.uk/data/data-catalogue
  • Sicrhau bod modd delweddu setiau data (Gwasanaeth Gweld) h.y. sut i weld y data. Datblygu Gwasanaethau Mapio Gwefannau (WMS) fel bod modd i ddefnyddwyr weld ac archwilio gorsafoedd mesur a data ansawdd aer ar-lein.
  • Darparu mynediad i gynnwys data (Gwasanaeth Lawrlwytho). Mae modd lawrlwytho data fel rhyngwynebau defnyddiwr traddodiadol gan ddefnyddio llinynnau Iaith Ymholiadau Strwythuredig (SQL), neu fel swmp lawrlwythiadau gan ddefnyddio Ffrydiau Atom neu bron mewn amser real gan ddefnyddio Gwasanaethau Arsylwi Synwyryddion.

Mae gan y gwasanaethau data agored sy’n cael eu darparu gan wefan UK-AIR ar hyn o bryd “sgôr” Data Agored 4 seren ar sail matrics sgôr data agored Tim Berners Lee. Mae ehangu argaeledd data Ansawdd Aer yn hyrwyddo cysylltiadau rhwng cymunedau technoleg sy’n dod i’r amlwg.