Gallwch wneud gwahaniaeth i leihau llygredd yn eich ardal hefyd drwy roi cynnig ar rai o’r camau isod:
Cerdded neu feicio i’r gwaith
Gallech gerdded neu feicio i’r ysgol gyda ffrindiau, heb greu unrhyw lygredd o gwbl ac mae’n dda i’ch iechyd. Mae cerdded neu feicio’n well na theithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n well o lawer na theithio mewn car.
Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
Mae’n well i’r amgylchedd os gallwn ni ddefnyddio bysiau neu drenau pryd bynnag y gallwn ni, gan y bydd hyn yn golygu bod llai o geir ar y ffordd yn creu llygredd. Mae pob newid bach yn gwneud gwahaniaeth - ac mae gan bob un ohonom ni gyfraniad i’w wneud at lanhau’r aer o’n cwmpas.
Arbed trydan!
Peidiwch â gadael eich teclynnau electronig fel y teledu, cyfrifiadur, peiriant DVD yn y modd segur. Diffoddwch nhw’n llwyr ac fe fyddwch chi’n arbed 10% yn rhagor o drydan. Mae defnyddio llai o drydan yn golygu cynhyrchu llai o bŵer a llai o lygryddion yn cael eu rhyddhau i’r aer o losgi tanwydd ffosil. Bydd yn arbed arian i chi yn y tymor hir hefyd.
Defnyddio trydan adnewyddadwy
Mae defnyddio ynni ‘adnewyddadwy’ yn ffordd o leihau allyriadau llygryddion aer a nwyon tŷ gwydr. Mae enghreifftiau’n cynnwys ynni’r haul, tyrbinau gwynt a hydro-drydan.