Gwyddoniaeth Dinasyddion 

Nod Gwyddoniaeth Dinasyddion yw eich galluogi chi i gasglu a dadansoddi data llygredd aer fel prosiect ysgol. Rydym ni eisiau i chi fynd ati i ddysgu beth yw’r sefyllfa llygredd aer yn eich ardal chi a sut mae’n effeithio arnoch chi a’ch amgylchedd.

 

Ar ôl i’ch ysgol gofrestru byddwch yn cael Pecyn Gwyddoniaeth Dinasyddion sy’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i ddechrau’ch prosiect ysgol.

 

Os nad yw’ch ysgol yn cymryd rhan yn y prosiect Gwyddoniaeth Dinasyddion eisoes a’i bod yn awyddus i wneud hynny, cysylltwch â ni!

Pam cymryd rhan?

  • cael profiad ymarferol o ddefnyddio offer monitro gwyddonol
  • dysgu sut mae mewnbynnu’ch data gwyddonol a chreu map o’ch canlyniadau
  • dysgu am lygredd aer a’i effaith ar eich iechyd a’r amgylchedd
  • dysgu sut mae newid y ffordd rydych chi’n teithio i’r ysgol a sut gall hyn gael effaith gadarnhaol ar lygredd aer yn eich ardal