Gallwn wneud llawer o bethau i helpu i leihau llygredd aer. Mae angen ynni arnom i dyfu ein bwyd, glanhau ein dŵr yfed, cynhyrchu’r pethau rydyn ni’n eu defnyddio bob dydd a theithio o le i le. Mae’r rhan fwyaf o’r ynni hwn yn cael ei gynhyrchu trwy losgi tanwydd fel nwy, olew a glo. Mae hynny’n creu carbon deuocsid (sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd) a rhywfaint o lygredd aer hefyd (fel nitrogen deuocsid).
Felly, os gallwn ni ddefnyddio llai o ynni, ac osgoi ei wastraffu, gallwn helpu i leihau llygredd aer a newid yn yr hinsawdd. Dyma syniad neu ddau i chi:
Defnyddio bysiau a threnau
Gallwn ni i gyd helpu i leihau llygredd trwy ddefnyddio llawer llai o’n ceir! Mae’n well defnyddio bysiau neu drenau os gallwn ni, er lles yr amgylchedd.
Cerdded neu feicio
Mae cerdded neu feicio hyd yn oed yn well na’r bws, gan nad ydyn nhw’n creu unrhyw lygredd o gwbl. Maen nhw’n llesol i’ch iechyd chi hefyd. Gallech gerdded neu feicio i’r ysgol gyda ffrindiau, neu beth am ddechrau bws cerdded i’r ysgol?
Diffodd y goleuadau
Ydy pawb yn swnian arnoch i ddiffodd y golau? Wel, mae’n gwneud synnwyr! Mae nid yn unig yn arbed arian, ond yn golygu nad oes angen i’n gorsafoedd pŵer gynhyrchu cymaint o ynni - sy’n helpu i leihau llygredd.
Defnyddio ynni adnewyddadwy
Mae defnyddio ynni ‘adnewyddadwy’ yn ffordd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a llygryddion yr aer. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys ynni solar, tyrbinau gwynt a thrydan dŵr.
Troi’r gwres i lawr
Cadwch yn gynnes yn y cartref, ond cyn troi’r gwres i fyny, gwisgwch siwmper. Mae 21o Celsius yn gyfforddus i’r rhan fwyaf o bobl.
Lleihau gwastraff
Peidiwch â gwastraffu’r pethau rydyn ni’n eu defnyddio bob dydd, fel papur. Meddyliwch ddwywaith cyn argraffu o’r cyfrifiadur!