Newid yn yr hinsawdd

Efallai’ch bod chi wedi clywed llawer am newid yn yr hinsawdd. A fydd y capiau iâ a’r rhewlifau i gyd yn toddi? A fydd lefel y môr yn codi? Ai newid yn yr hinsawdd yw’r broblem amgylcheddol fwyaf sy’n wynebu ein planed heddiw? I wybod mwy, darllenwch rai o’r atebion hyn…

Beth yw’r Hinsawdd?

Teacher IllustrationYstyr ‘hinsawdd’ yw’r patrwm tywydd cyfartalog mewn rhanbarth, sydd wedi’i gofnodi dros sawl blwyddyn. Gall fod yn rhanbarth fel Cymru, neu’n ardal fwy fel y Deyrnas Unedig. Nid yw hinsawdd yr un fath â’r tywydd, sef rhywbeth rydym yn ei brofi bob dydd – fel haul, glaw, gwynt, eira, niwl.

Beth yw newid yn yr hinsawdd?

Mae hinsawdd y Ddaear yn newid byth a hefyd. Yn y gorffennol, achosion naturiol oedd yn gyfrifol am y newidiadau. Er enghraifft, ar ôl i losgfynydd ffrwydro, mae peth wmbredd o lwch yn chwythu’n uchel i fyny i’r atmosffer. Mae hynny, yn ei dro, yn lleihau faint o haul sy’n cyrraedd wyneb ddaear.

Mae’r term ‘newid yn yr hinsawdd’ fel arfer yn cael ei ddefnyddio i olygu newidiadau yn ein hinsawdd, sydd wedi dechrau dod i’r amlwg ers dechrau’r ganrif ddiwethaf (y flwyddyn 1900). Mae gwyddonwyr yn credu mai pobl, yn hytrach na newidiadau naturiol yn yr atmosffer, sy’n bennaf gyfrifol am y newidiadau a welwyd dros y cyfnod hwn.

Mae newid yn yr hinsawdd yn cael ei achosi gan rywbeth o’r enw’r ‘effaith tŷ gwydr’. Mae tŷ gwydr yn dda iawn ar gyfer tyfu planhigion gan ei fod yn dal a chadw’r gwres y tu mewn, ac mae’n aros yn boethach na’r aer o’i gwmpas. Mae atmosffer y Ddaear fel tŷ gwydr enfawr, sy’n trapio neu’n dal rhywfaint o wres yr haul. Effaith tŷ gwydr naturiol yw hyn. Hebddo, byddai’r ddaear yn llawer rhy oer i gynnal yr holl fathau gwahanol o blanhigion ac anifeiliaid sy’n byw yma.

Y broblem yw bod gweithgaredd dyn yn achosi i’r ddaear gynhesu mwy. Hyn oherwydd bod y nwyon sy’n cael eu rhyddhau wrth inni losgi tanwydd yn newid yr atmosffer.

Efallai y gallwch chi neu’ch teulu wneud rhywbeth i helpu i arbed ynni a lleihau allyriadau? Am syniadau, ewch i’r adran 'Beth alla i ei wneud?'.

Beth sy’n achosi newid yn yr hinsawdd?

Power Station Illustration

Mae gwyddonwyr yn credu mai’r ‘nwyon tŷ gwydr’ sy’n gollwng wrth inni losgi tanwydd (e.e. i wresogi ein cartrefi, cynhyrchu trydan neu’r diwydiant ynni) sy’n bennaf gyfrifol am achosi newid yn yr hinsawdd. Mae pobl wedi bod yn defnyddio llawer mwy o ynni ers dechrau’r ganrif ddiwethaf.

Pan mae tanwydd fel glo, nwy, olew neu betrol yn cael eu llosgi, maen nhw’n creu nwy o’r enw carbon deuocsid. Mae carbon deuocsid yn cryfhau’r effeithiau tŷ gwydr. O ganlyniad, mae mwy o wres yr haul yn mynd yn sownd yn yr atmosffer ac mae’r blaned yn cynhesu. Dyma sy’n achosi newid yn yr hinsawdd. Os yw’n parhau, bydd yn cael effaith aruthrol ar systemau tywydd a’r hinsawdd ym mhob cwr o’r byd!

Mae cynhesu byd eang yn cael ei ddisgrifio’n aml fel proses anthropogenig, sy’n golygu “pobl achosodd e”.
Mae yna chwe nwy tŷ gwydr pwysig, ond carbon deuocsid yw’r pwysicaf ohonyn nhw, gan ein bod ni’n cynhyrchu cymaint ohono.

Oes angen i ni boeni?

Scientists predict that climate change will affect much of our world. Many scientists and politicians believe that climate change is a threat greater than anything humans have faced in recent history. Unless we tackle the problem soon, it could cause serious problems, by making the climate much more unpredictable. This could make it much harder to grow enough food for everyone, especially in the developing countries where many people are already poor. Some species (types of animals and plants) could become extinct.

Allwn ni atal newid yn yr hinsawdd?

Dragon IllustrationMae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn credu bod angen i ni weithredu’n gyflym er mwyn lleihau faint o nwyon tŷ gwydr mae pobl yn eu gollwng i’r atmosffer. Er na allwn ni stopio effeithiau newid yn yr hinsawdd yn llwyr, mae’n bosib i ni eu cyfyngu nhw. I wneud hyn, mae angen i bawb feddwl am yr ynni rydyn ni’n ei ddefnyddio yn ein bywydau bob dydd, a cheisio defnyddio llai.

Er na all unrhyw un wneud popeth, pe bai pawb yn gwneud rhywbeth i ddefnyddio llai o ynni, mae gennym gyfle i gyfyngu ar effeithiau newid hinsawdd. Oes rhywbeth allwch chi neu’ch teulu ei wneud i helpu i wneud gwahaniaeth?