Sut mae’n effeithio arna i?

Illustraion of child

Rydyn ni angen yr aer o’n cwmpas yn yr atmosffer i anadlu a byw. I rai, fodd bynnag, mae llygredd aer yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles.

Pan mae llygredd aer yn uwch nag arfer, mae pobl sydd â phroblemau gyda’r galon neu’r ysgyfaint yn debygol o gael eu taro’n wael neu angen triniaeth. Dylen nhw ddilyn cyngor eu meddyg.

Fel arfer, ni fydd pobl iach yn sylwi ar unrhyw sgileffeithiau o gwbl. Ond, os oes lefelau “uchel iawn” o lygredd aer, gall hyd yn oed pobl iach gael dolur gwddw neu wddw sych.

Does dim angen i blant gadw draw o’r ysgol, neu osgoi chwarae gemau neu wneud ymarfer corff, oherwydd llygredd aer. Dylai plant ag asthma ofalu bod ganddyn nhw eu meddyginiaethau arferol ar ddiwrnodau pan mae’r lefelau llygredd aer yn uwch nag arfer.

Fodd bynnag, mae’n effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol. Felly, dylai unrhyw un sydd ag asthma neu broblem iechyd arall sy’n eu gwneud nhw’n sensitif i lygredd gymryd cyngor eu meddyg.

Ond nid i bobl yn unig mae llygredd aer yn niweidiol. Mae rhai llygryddion fel nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid yn cyfrannu at law asid, sy’n gallu difrodi cnydau, coedwigoedd a deunyddiau, neu niweidio pysgod ac anifeiliaid.

Mesur llygredd aer

Pollutant character illustrationMae llygredd aer yn cael ei fesur ar raddfa o 1 i 10.

Mae llygredd aer yn Isel os yw rhwng 1 a 3, yn Gymedrol os yw rhwng 4 a 6, yn Uchel os yw rhwng 7 a 9 ac yn Uchel Iawn os yw ar lefel 10.

Gallwch wirio’r lefelau llygredd yn yr hafan!