Osôn
Mae osôn yn digwydd yn naturiol, fyny fry yn yr awyr (atmosffer). Pan mae’r osôn ym mhell bell yn yr atmosffer, mae’n ddefnyddiol iawn. Mae’n helpu i’n diogelu ni rhag yr haul trwy hidlo’r pelydrau uwchfioled niweidiol. Ar lefel y ddaear, fodd bynnag, mae’n niweidiol i’w anadlu ac mae’n gallu ei gwneud hi’n anodd i bobl anadlu, yn enwedig rhai ag asthma.
Nitrogen Deuocsid
Mae nitrogen deuocsid yn wenwynig ac yn niweidiol iawn i bobl. Pe baech chi’n anadlu llawer iawn o nitrogen deuocsid, byddai’n anodd iawn cael eich gwynt, bydd gennych boenau yn eich brest ac fe allai niweidio’r ysgyfaint.
Mae nitrogen deuocsid yn rhan o deulu o’r enw ‘Ocsidiau o Nitrogen’. Mae ei chwaer, Ocsid Nitrig (NO), yn ddi-liw, does ganddo ddim arogl a dydy e ddim yn beryglus i bobl o gwbl. Ond pan mae ocsid nitrig yn dod i gysylltiad ag ocsigen (sy’n rhan o’r aer o’n cwmpas ni) mae’n newid yn sydyn iawn ac yn troi’n nitrogen deuocsid, sy’n ddrwg i ni a’r amgylchedd.
Felly, bydd unrhyw beth sy’n gollwng neu’n allyrru ocsid nitrig i’r aer rydyn ni’n ei anadlu yn achosi llygredd nitrogen deuocsid. Mae hyn yn cynnwys bron unrhyw beth sy’n llosgi tanwydd, yn enwedig ceir a cherbydau eraill.
Sylffwr deuocsid
Llosgfynyddoedd yw’r ffynhonnell naturiol fwyaf cyffredin o sylffwr deuocsid, a’r ffynhonnell ddynol fwyaf cyffredin yw llosgi tanwydd fel olew, glo, nwy, petrol a diesel.
Ers talwm, pan roedd llawer mwy o bobl yn llosgi glo yn eu cartrefi, roedd llygredd sylffwr deuocsid yn broblem enfawr o gymharu â heddiw, yn enwedig yn y gaeaf. Ym 1952, bu farw bron i 4,000 o bobl yn Llundain oherwydd sylffwr deuocsid a llygredd mwg. Heddiw, mae llygredd sylffwr deuocsid yn is o lawer, ond mae’n dal i allu creu trafferthion anadlu, yn enwedig i bobl sy’n dioddef o asthma.
Yn aml, mae effeithiau llygredd sylffwr deuocsid yn waeth os yw lefelau llygredd eraill yn uchel.
Carbon Monocsid
Mae hwn yn wenwynig hefyd, a gall anadlu llawer iawn o garbon monocsid ein lladd ni oherwydd mae ein hysgyfaint yn ei ddrysu gydag ocsigen, ac yn ei roi yn ein llif gwaed ar gam. Pan mae carbon monocsid yn ein gwaed, mae’n atal y gwaed rhag gallu amsugno ocsigen. Mae hyn yn golygu nad oes gennym ni ddigon o ocsigen yn ein gwaed i’n cadw’n fyw.
Er bod carbon monocsid yn hynod wenwynig, mae lefelau’r nwy yn yr aer tu allan yn rhy isel i fod yn beryglus. Fel arfer, carbon monocsid y tu mewn i rywle sy’n beryglus i bobl, e.e. os oes ganddyn nhw nam ar y boeler neu wresogydd.
Mae angen ocsigen ar danwydd i losgi. Caiff carbon monocsid ei gynhyrchu wrth i danwydd losgi heb ddigon o ocsigen - fel injan car. Mae hyn yn golygu mai mathau o drafnidiaeth (fel ceir, bysiau a lorïau) yw prif ffynonellau llygredd carbon monocsid. Fodd bynnag, mae carbon monocsid yn cael ei greu gan atomfeydd neu orsafoedd pŵer hefyd, a chan losgyddion gwastraff (sy’n llosgi ein sbwriel i gynhyrchu ynni).
Gronynnau
Ystyr PM10 yw Gronyn sy’n mesur llai na 10 micron o ddiamedr – sy’n fychan bach bach (mae yna 1000 o ficronau mewn milimetr!). Gall y gronynnau hyn ddod o huddygl o beipen egsôst ceir neu simneiau, llwch, pridd, halen môr, neu gemegion eraill. Cerbydau a diwydiant sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r rhan fwyaf o PM10 yma yng Nghymru.
Y broblem gyda PM10 yw bod y gronynnau mor fach fel ein bod ni’n gallu eu hanadlu. Maen nhw’n gallu teithio’n ddwfn i’n hysgyfaint ac achosi cosi llid a niwed. Efallai bod y math hwn o lygredd yn gwaethygu salwch pobl â chlefyd y galon neu’r ysgyfaint.
Mae gronynnau sy’n fwy na deg micron o hyd yn dueddol o fynd yn sownd yn naturiol yn ein trwyn neu’n gwddf, cyn iddyn nhw gyrraedd ein hysgyfaint. Mae’r blew bach yn ein trwyn yn helpu i atal hyn.