Monitro

Sut mae ansawdd yr aer yn amrywio o amgylch eich ysgol

Bydd llygredd aer yn amrywio o gwmpas eich ysgol am sawl rheswm. Rydyn ni’n disgwyl i lygredd aer fod yn uwch ger y ffyrdd, oherwydd cerbydau.

Van Mae ceir, faniau a bysiau sy’n rhedeg ar betrol neu ddisel (tanwydd ffosil) yn allyrru llygryddion, a pho agosaf ydych chi atyn nhw, po uchaf fydd lefelau’r llygredd.

Ym maes parcio’r ysgol, bydd lefelau uwch o lygredd ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol, oherwydd bod ceir yn symud ac yn allyrru llygredd. Ar adegau eraill, rydym yn disgwyl i’r lefelau fod llawer is.

CarMewn mannau agored, fel meysydd chwarae eich ysgol, disgwylir i’r lefelau llygredd fod yn is. Y rheswm am hyn yw oherwydd nad oes llygredd yn cael ei allyrru gerllaw. Mewn mannau llydan agored, mae’n hawdd i lygryddion gael eu chwythu i ffwrdd, yn enwedig ar ddyddiau gwyntog.

Os hoffech chi gynnal gwaith monitro o gwmpas eich ysgol chi cysylltwch â ni.

Gellir lawrlwytho pecyn athrawon sy'n darparu gwybodaeth i gefnogi gwefan Young Dragons: Pecyn athrawon