Cwblhewch y pos isod i ganfod beth sy’n achosi llygredd aer!
O ble y daw ein llygredd aer?
Eich tasg chi yw chwilio am eitemau gwahanol yn y dirwedd hon er mwyn darganfod beth sy’n achosi llygredd aer! Mae 10 ffynhonnell wahanol i ddod o hyd iddyn nhw – pob lwc!
Mae’r tywydd yn gallu cael effaith ar lygredd aer. Mae diwrnodau gwlyb a gwyntog yn golygu bod ansawdd yr aer yn dda. Mae hyn oherwydd bod glaw yn golchi’r llygryddion o’r aer, a’r gwynt yn lledaenu’r llygredd fel nad yw’n aros yn ei unfan (gwasgariad yw hyn).
Mae ansawdd yr aer yn gallu bod yn wael ar ddiwrnod llonydd. Ar ddiwrnodau sych a phoeth o haf, heb fawr o wynt, mae nwy o’r enw osôn yn cael ei ffurfio trwy adwaith cemegol rhwng llygryddion eraill fel nitrogen deuocsid. Mae golau haul yn helpu’r adweithiau hyn. Yn y gaeaf, pan mae’n oer ond ddim yn wyntog iawn, gall aer oer fod yn sownd o dan haen o aer cynhesach uwchben. Pan mae hyn yn digwydd, mae’r haen o aer cynhesach yn gweithredu fel nenfwd. Mae’r llygredd aer wedi’i ddal ger y ddaear, a ddim yn gallu dianc i wasgaru.
Cynhyrchu ynni
Mae’r rhan fwyaf o’r ynni, neu drydan, rydyn ni’n ei ddefnyddio yn cael ei gynhyrchu trwy losgi tanwydd fel glo, nwy neu olew mewn gorsafoedd pŵer. Wrth losgi glo, mae sylffwr deuocsid, ocsidau nitrogen a llygryddion gronynnau yn cael eu gollwng. Mae sylffwr deuocsid a llygryddion gronynnau yn gallu creu glaw asid yn yr atmosffer sy’n achosi difrod i blanhigion ac adeiladau. Er bod nwy naturiol yn danwydd glanach, mae’n dal i gynhyrchu ocsidau nitrogen wrth losgi. Hefyd, mae’r broses o gynhyrchu ynni yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr sy’n gallu achosi newid yn yr hinsawdd.
Trefi a dinasoedd
Arferai trefi a dinasoedd fod yn llefydd budr iawn pan oedd y ffatrïoedd ar waith. Erbyn heddiw, traffig ffyrdd sy’n bennaf gyfrifol am lygredd aer yma – ceir, faniau, lorïau, bysiau a choetsis. Mae llygredd aer yn waeth ger ffyrdd prysur ond yn well i ffwrdd o’r traffig.
Mae’r tywydd yn gallu helpu i ostwng lefelau llygredd trwy chwythu’r llygryddion i ffwrdd. Ar ddiwrnod hynod o wyntog, mae’r llygredd aer yn aml yn isel iawn.
Trafnidiaeth y ffyrdd
Traffig a thagfeydd yw’r ffynonellau llygredd mwyaf yng Nghymru, ac mae nifer y cerbydau ar ein ffyrdd yn cynyddu bob amser. Mae cerbydau fel ceir, beiciau modur, faniau, bysiau a lorïau yn rhedeg ar betrol neu ddisel yn bennaf. Pan fo’r injan yn llosgi petrol a disel, mae llygryddion yn gollwng trwy beipen egsôst y cerbydau.
Y prif lygryddion gerllaw ffyrdd prysur yw ocsidau nitrogen, carbon monocsid a gronynnau. Maen nhw’n cael eu hallyrru’n agos at y ddaear, i’r aer rydyn ni’n ei anadlu. Gall hyn arwain at broblemau iechyd, yn enwedig lle mae llygredd aer yn uchel. Mae cerbydau mwy o faint ag injans mwy yn gollwng mwy o lygredd i’r amgylchedd. Trafnidiaeth y ffyrdd yw’r ffynhonnell fwyaf o ocsidau nitrogen yma yng Nghymru.
Awyrennau
Yn y blynyddoedd diweddar, mae nifer y bobl sy’n teithio mewn awyren wedi cynyddu’n aruthrol. Mae hyn yn newyddion da i dwristiaeth a’r diwydiant ymwelwyr, ond nid i’r amgylchedd.
Mae awyrennau’n defnyddio llawer iawn o danwydd, sy’n golygu eu bod nhw’n cynhyrchu llawer iawn o garbon deuocsid. Dyma un o’r “nwyon tŷ gwydr” sy’n gyfrifol am newid yn yr hinsawdd. Mae rhai teuluoedd yn helpu i leihau allyriadau CO2 trwy beidio â hedfan, a mynd ar wyliau yn nes at adref.
Cefn gwlad
Byddech yn tybio mai problem y dref a'r ddinas yw llygredd aer, ond yn y blynyddoedd diweddar, mae diwydiant a gorsafoedd pŵer wedi’u hadeiladu mewn ardaloedd gwledig. Yn aml, mae’r gwynt yn cludo llygryddion fel ocsidau nitrogen a sylffwr deuocsid i bentrefi ac ardaloedd cyfagos.
Yn yr haf, mae ocsidau nitrogen yn gallu adweithio â llygryddion eraill yng ngolau’r haul i greu osôn. Ar ddyddiau poeth a llonydd yn yr haf, mae lefelau osôn yng nghefn gwlad yn gallu cynyddu i lefelau peryglus. Gall hyn effeithio ar ein hanadl, yn enwedig pobl ag asthma neu broblemau anadlu eraill.
Anifeiliaid fferm
Mae anifeiliaid fel defaid a gwartheg yn treulio llawer o amser yn bwyta glaswellt a’i dreulio wedyn. Mae nwy di-liw o’r enw methan yn cael ei greu yn eu stumogau pan fo bacteria yn dadelfennu’r bwyd maen nhw’n ei fwyta. Mae’r anifeiliaid yn rhyddhau’r nwy hwn bob tro maen nhw’n torri neu godi gwynt wedyn!
Yng Nghymru, anifeiliaid da byw yw’r allyrwyr methan pennaf. Methan yw’r nwy tŷ gwydr pwysicaf ond un (ar ôl carbon deuocsid), sy’n golygu ei fod yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
Diwydiant
Ystyr ‘diwydiant’ yw cynhyrchu pethau mewn ffatrïoedd. Tua 200 mlynedd yn ôl, cafodd llawer o ffatrïoedd eu hadeiladu, yn enwedig mewn trefi a dinasoedd. Mae diwydiant yn defnyddio tanwydd, ac felly’n gallu bod yn ffynhonnell llygredd aer, fel sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid. Mae sylffwr deuocsid a nitrogen yn gallu creu glaw asid yn yr atmosffer sy’n achosi difrod i blanhigion ac adeiladau.
Heddiw, mae llawer o ddiwydiannau mawrion wedi’u lleoli ar gyrion trefi, er mae llygredd yn dal i allu gael ei gario i’r trefi a’r dinasoedd gyda’r gwynt.
Trenau
Mae trenau’n ffordd wych o symud llawer iawn o bobl o amgylch y wlad, ac yn achosi llai o lygredd na’r un teithiau â char.
Ond mae trenau yn llygru’r amgylchedd hefyd - hyd yn oed trenau trydan, gan fod y trydan maen nhw’n ei ddefnyddio yn cael ei gynhyrchu mewn gorsaf bŵer. Pan fo’r tanwydd yn cael ei losgi, mae llygryddion fel ocsidau nitrogen, sylffwr deuocsid a gronynnau yn cael eu rhyddhau i’r atmosffer.
Gwastraff
Yng Nghymru, gwaredu gwastraff yw’r allyrwyr mwyaf ond un o nwy methan, ar ôl anifeiliaid da byw. Mae’r sbwriel rydyn ni’n ei daflu yn dadelfennu a phydru yn y ddaear ac yn rhyddhau mwy methan i’r amgylchedd.
Methan yw’r nwy tŷ gwydr pwysicaf ond un (ar ôl carbon deuocsid), sy’n golygu ei fod yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.