Google Earth Gweld

Drwy ddefnyddio Google Earth, neu gymhwysiad addas arall, gallwch weld y wybodaeth a'r data diweddaraf ar gyfer holl safleoedd monitro ansawdd aer awtomatig Rhwydwaith Monitro Ansawdd Aer Cymru. Mae'n hawdd dechrau arni, y cyfan sydd angen ei wneud yw dilyn y camau isod. Bydd yr enghreifftiau'n defnyddio Google Earth, ond mae cymwysiadau tebyg eraill ar gael.

Dim ond unwaith y bydd angen i chi lawrlwytho'r ffeil i'ch cyfrifiadur gan y bydd yn awtomatig yn cael y data diweddaraf pryd bynnag y byddwch yn ei agor.

CAM UN: Lawrlwytho Google Earth

Gellir lawrlwytho Google Earth am ddim o Google drwy ddefnyddio cyfrifiadur personol a Mac neu Linux. Ewch i http://earth.google.com/download-earth.html a chliciwch ar y botwm 'Agree and Download' ar ôl i chi fwrw golwg ar y telerau ac amodau a'u derbyn.

Ar ôl ei lawrlwytho, agorwch y ffeil gosodwr a gadewch i Google Earth gael ei osod ar eich cyfrifiadur.

CAM DAU: Lawrlwytho'r ffeil KMZ

Ar ôl gosod Google Earth ar eich cyfrifiadur, gallwch lawrlwytho'r ffeil KMZ sydd wedi'i datblygu'n arbennig ar gyfer Rhwydwaith Monitro Ansawdd Aer Cymru. Mae ffeil KMZ yn fath arbennig o ffeil sy'n amgodio data daearyddol ar gyfer ei arddangos mewn amrywiaeth o gymwysiadau, gan gynnwys Google Earth.

Google Earth layerLawrlwytho Ffeil KMZ

CAM TRI: Agor y ffeil KMZ drwy ddefnyddio Google Earth

Google Earth Overview

Trosolwg Pan fyddwch yn agor y ffeil KMZ, bydd y glôb sy'n ymddangos yn chwyddo Cymru yn awtomatig. Ar ôl eiliad neu ddwy, bydd y map yn dangos smotiau gwahanol liwiau sy'n dangos safle'r gorsafoedd monitro, a'u lefel band llygredd aer cyfredol.

Google Earth Bandings

Bandiau Cliciwch ar y ddolen 'Banding Information' ar yr ochr am fwy o wybodaeth am y bandiau a ddefnyddir ar gyfer lefelau llygredd aer.

Google Earth site information

Gweld Data Safle Os ydych chi'n symud y cyrchwr dros unrhyw smotyn safle monitro, bydd enw'r safle yn ymddangos i'ch helpu i weld pa leoliad rydych chi'n edrych arno. Bydd clicio ar y smotyn yn gwneud i falwn ymddangos sy'n dangos gwybodaeth fanylach am lygredd aer, gan gynnwys y lefelau llygryddion diweddaraf a fesurwyd ar y safle, graff wythnosol o lefelau llygryddion, a dolenni i ganfod rhagor o wybodaeth.

Noder: Mae hawlfraint pob llun a ddangosir ar y sgrin yn eiddo i Google © ac mae'r lluniau Google Earth™ a ddangosir yn eiddo i'r perchennog priodol.