Gwybodaeth ychwanegol

Mae´r mynegai ansawdd aer (DAQI) wedi´i ddatblygu i ddarparu cyngor ar y lefelau llygredd aer disgwyliedig. Mae hefyd yn cynghori ar yr effeithiau tymor byr ar iechyd y gellid eu disgwyl yn &ol bandiau gwahanol y mynegai (Isel, Cymedrol, Uchel, Uchel Iawn). Mae´r cyngor yn berthnasol i unrhyw un sy´n profi symptomau.

Effeithiau tymor byr llygredd aer ar iechyd

Gall llygredd aer effeithio mewn amrywiol ffyrdd ar iechyd. Fodd bynnag, yn y DU nid yw llygredd aer fel arfer yn codi i lefelau lle mae angen i bobl wneud newidiadau sylweddol i´w harferion i osgoi perygl: does dim angen i neb ofni mynd allan i´r awyr agored.

  • Oedolion a Phlant sydd â chyflyrau sy´n effeithio ar yr ysgyfaint neu´r galon – Pan mae lefelau llygryddion aer yn codi, mae oedolion sy´n dioddef gyda´r galon, ac oedolion a phlant sydd â phroblemau´r ysgyfaint, mewn mwy o berygl o ddioddef gwaeledd a bod angen triniaeth. Dim ond lleiafrif o´r rhai sy´n dioddef y cyflyrau hyn sy´n debygol o gael eu heffeithio ac mae´n amhosibl rhagweld pwy fydd yn cael eu heffeithio. Mae rhai´n ymwybodol bod llygredd aer yn effeithio ar eu hiechyd: efallai y bydd oedolion a phlant ag asthma yn sylwi bod angen iddynt ddefnyddio mwy o´u hanadlydd a lleihau´r peryglon posibl drwy wneud llai o ymarfer corff egnïol, yn enwedig yn yr awyr agored, ar ddyddiau pan fo lefelau llygredd aer yn uwch na´r arfer.
  • Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o ddioddef gyda´r galon a´r ysgyfaint na phobl ifanc felly mae´n syniad da iddynt fod yn ymwybodol o amodau llygredd aer cyfredol.
  • Nid oes angen cadw plant o´r ysgol na´u hatal rhag cymryd rhan mewn gemau. Efallai y bydd plant ag asthma yn sylwi bod angen iddynt ddefnyddio mwy o´u hanadlydd ar ddyddiau pan fo lefelau llygredd aer yn uwch na´r arfer. Dylid ond gwneud addasiadau o´r fath ar gyngor ymarferwyr iechyd.
  • Y cyhoedd – Pan fydd y lefelau llygredd aer yn Uchel Iawn, efallai y bydd rhai, hyd yn oed unigolion iach, yn dioddef dolur gwddf neu wddf sych, dolur llygaid neu, mewn ambell i achos, peswch coslyd.

Camau gweithredu y gellir eu cymryd

Pan fo lefelau llygredd aer yn codi, byddai´n syniad i´r rhai sydd wedi sylwi eu bod yn cael eu heffeithio geisio dod i lai o gysylltiad â llygryddion aer. Nid yw hyn yn golygu osgoi mynd allan i´r awyr agored, ond byddai´n ddoeth gwneud llai o ymarfer yn yr awyr agored.

  • Gallai pobl hŷn â´r rhai sydd â phroblemau´r galon a´r ysgyfaint osgoi ymarfer ar ddyddiau llygredd Cymedrol os ydynt yn profi symptomau.
  • Dylai oedolion a phlant ag asthma wneud yn siŵr eu bod yn cymryd eu meddyginiaeth yn ôl cyngor eu hymarferydd iechyd ac efallai y byddant yn sylwi eu bod angen defnyddio mwy o´u hanadlydd.
  • Ni ddylai oedolion â phroblemau´r galon a chylchrediad y gwaed addasu eu triniaethau ar sail cyngor yn y mynegai ansawdd aer; dylid ond gwneud addasiadau o´r fath ar gyngor ymarferydd iechyd.
  • Efallai y bydd rhai athletwyr, hyd yn oed os nad oes ganddynt asthma, yn sylwi nad ydynt yn perfformio cystal â´r disgwyl pan fo lefelau o lygredd aer penodol (osôn ar lefel y ddaear) yn Uchel, ac efallai y byddant yn sylwi bod anadlu´n ddwfn yn achosi peth anghysur yn y frest. Gellid disgwyl hyn yn yr haf ar ddyddiau pan fo lefelau osôn ar lefel y ddaear yn codi. Nid yw hyn yn golygu eu bod mewn perygl, ond byddai´n syniad iddynt gyfyngu ar eu gweithgareddau ar ddyddiau o´r fath.