Camau Gweithredu ar Newid yn yr Hinsawdd

Mae Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), a sefydlwyd gan Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP) a Sefydliad Meteorolegol y Byd (WMO), wedi adrodd bod y dystiolaeth o blaid cynhesu byd eang bellach yn "ddiamwys" a’i fod bellach “95% yn sicr mai gweithgareddau pobl sy’n bennaf gyfrifol am y cynhesu byd eang a welwyd ers canol yr ugeinfed ganrif”. Mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth elfennau sylfaenol bywyd i bawb - mynediad i ddŵr, cynhyrchu bwyd, iechyd a’r defnydd o'r tir a'r amgylchedd. Os na eir ati i ddadwneud y newid yn yr hinsawdd, gallai Cymru ddioddef hafau poethach a sychach, gaeafau mwynach a gwlypach, a chynnydd yn y tebygolrwydd o lifogydd mewn ardaloedd arfordirol.

Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd

Cytundeb rhyngwladol yw Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC) sy'n nodi fframwaith cyffredinol ar gyfer ymdrechion rhynglywodraethol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n deillio o newid yn yr hinsawdd. Daeth yr UNFCCC i rym ym 1994, gyda'r amcanion o rannu gwybodaeth ac arferion gorau ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac addasu i effeithiau disgwyliedig newid yn yr hinsawdd. Cytundeb rhyngwladol yw Protocol Kyoto sy'n gysylltiedig â'r UNFCCC, ac mae'n gosod targedau ar gyfer nifer o wledydd sydd wedi’u diwydianeiddio a gwledydd y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae'r gwledydd sydd wedi llofnodi cyfnod ymrwymo cyntaf Protocol Kyoto yn ymrwymo'n gyfreithiol i leihau allyriadau 5.2% o gymharu â lefelau 1990 erbyn 2012. Yn 2012, cytunodd gwelliant i Brotocol Kyoto (Gwelliant Doha) fod angen ail ymrwymiad a thargedau newydd ar gyfer 2020. Mae Cytundeb Paris 2016 yn datblygu’r Confensiwn, ac am y tro cyntaf mae’n uno pob gwlad mewn nod cyffredin, sef rhoi ymdrechion uchelgeisiol ar waith i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i’w effeithiau, gyda rhagor o gymorth i helpu gwledydd sy’n datblygu i wneud hynny. Er mwyn cyflawni’r nodau uchelgeisiol hyn, bydd llifoedd ariannol priodol, fframwaith technoleg newydd a fframwaith datblygu capasiti gwell yn cael eu rhoi ar waith, er mwyn cefnogi camau gweithredu gwledydd sy’n datblygu a’r gwledydd sydd fwyaf agored i niwed, yn unol â’u hamcanion cenedlaethol eu hunain. Cynhelir arolwg byd-eang bob 5 mlynedd i asesu’r cynnydd cyfunol tuag at gyflawni amcan y Cytundeb a llywio camau gweithredu unigol pellach gan Bartïon.

Ansawdd Aer a Newid yn yr Hinsawdd yn y DU

Nid nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer yn unig sy'n achosi newid yn yr hinsawdd. Mae llygryddion ansawdd aer fel deunydd gronynnol hefyd yn cyfrannu at yr hinsawdd byd-eang. Mae rhai mathau o aer yn adlewyrchu ynni gwres a golau o'r haul ac felly'n cael effaith sy'n oeri'r atmosffer. Mae mathau eraill o ronynnau'n amsugno ac ail-ryddhau ymbelydredd gan achosi effaith gyffredinol o gynhesu.

Mae angen i strategaethau rheoli nwyon tŷ gwydr a llygryddion ansawdd aer ystyried y synergedd rhwng y ddau fath o lygryddion. Bydd lleihau crynodiadau amgylchol rhai llygryddion ansawdd aer o fudd i iechyd cyhoeddus, llystyfiant ac ecosystemau, a bydd yn cynorthwyo i ostwng tymheredd ledled y byd. Fodd bynnag, mae llunwyr polisi yn ymwybodol bod llygryddion eraill yn fater o gyfaddawd gan y bydd gostwng crynodiadau amgylchol o sylffadau, nitradau ac amonia yn cael effaith gyffredinol o gynhesu'r atmosffer.

Yn 2007, cyhoeddodd Grŵp Arbenigol Ansawdd Aer y DU yr adroddiad Air Quality and Climate Change: A UK Perspective (PDF). Nododd yr adroddiad nifer o gamau gweithredu, yn ogystal â chamau diddymu, y gellir eu cymryd i leihau allyriadau o lygryddion hinsawdd-actif ac ansawdd aer. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Newid o lo i nwy naturiol ar gyfer cynhyrchu pŵer. Bydd yn lleihau allyriadau CO2 am bob cilowat a gynhyrchir gan leihau allyriadau SO2 ac NOx hefyd
  • Defnyddio technolegau newydd ym maes trafnidiaeth ffyrdd, er enghraifft cerbydau hybrid, hydrogen o nwy naturiol neu o ynni adnewyddadwy, lleihau allyriadau CO2 am bob cilometr a deithir a lleihau allyriadau NOx, a deunydd gronynnol
  • Gwella effeithlonrwydd offer yn y cartref a phrosesau diwydiannol, er enghraifft drwy ddatblygiadau technegol. Bydd hyn yn lleihau allyriadau'r ddau fath o lygryddion, ond mae mesurau effeithlonrwydd yn arwain at gynnydd mewn galw o bryd i'w gilydd, ac mae'n rhaid osgoi hynny.

Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd

Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i weithio gyda Llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig eraill, y partneriaid sector gwirfoddol, statudol a busnes yng Nghymru, a'r gymuned i fynd i'r afael â bygythiad newid hinsawdd. Mae Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru yn datblygu’r targedau a’r dull a amlinellir mewn dogfennau blaenorol. Mae’n cynnwys nifer o gynigion penodol i alluogi Cymru a'r DU i fodloni targedau a nodir gan Brotocol Kyoto a Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Mae'r cynigion yn canolbwyntio ar gynorthwyo pobl i wneud dewisiadau sy'n ystyriol o'r hinsawdd, gan ddangos arweiniad drwy sicrhau bod newid yn yr hinsawdd yn rhan o benderfyniadau Llywodraeth Cymru, a gwella effeithlonrwydd ynni yn y meysydd canlynol:

  • Trafnidiaeth
  • Busnes
  • Preswyl
  • Gwastraff
  • Cyhoeddus
  • Amaethyddiaeth a rheoli tir

Nod cyffredinol y strategaeth yw lleihau allyriadau uniongyrchol yr holl nwyon tŷ gwydr 3% y flwyddyn (gan gynnwys y defnydd o drydan, heblaw am allyriadau o ddiwydiant trwm a chynhyrchu ynni). Fodd bynnag, bydd llawer o’r camau gweithredu a nodir gan Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ac a nodir yn y dogfennau strategaeth yn cyflwyno manteision ehangach i gymunedau Cymru. Bydd creu economi carbon isel yn cyflwyno cyfleoedd busnes a chreu swyddi ledled y wlad, ac mae arbedion iechyd ac ariannol clir i'w gwneud gan unigolion a sefydliadau wrth iddynt newid eu hymddygiad.

I gael rhagor o wybodaeth am y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru ewch i wefan Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.