Deunydd Gronynnol

Mae deunydd gronynnol yn yr aer hefyd yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd. Mae rhai mathau o ronynnau yn adlewyrchu ynni gwres a golau - neu belydriad - o'r haul ac felly mae ganddynt effaith sy'n oeri'r atmosffer. Mae rhywogaethau gronynnol eraill yn amsugno gan ryddhau pelydrau am yr ail waith ac sy'n achosi effaith gyffredinol o gynhesu'r atmosffer. Mae gronynnau yn yr atmosffer hefyd yn effeithio ar ffurfiant cymylau sy'n effeithio'n anuniongyrchol ar swm y pelydriad sy'n dod i mewn ac yn gadael y troposffer.

Ansoddau deunydd gronynnol sy'n oeri (newid negyddol yn y cydbwysedd ymbelydrol):

  • Sylffadau sy'n ffurfio wrth ollwng sylffwr deuocsid SO2, trwy hylosgi tanwydd ffosil
  • Nitradau sy'n ffurfio o nitrogen ocsid sy'n gollwng wrth losgi tanwydd ffosil
  • Amonia (NH3) o ffynonellau amaethyddol sy'n hyrwyddo ffurfiant nitradau a sylffadau

Ansoddau deunydd gronynnol sy'n cynhesu (newid cadarnhaol yn y cydbwysedd ymbelydrol):

  • Carbon du (huddygl) yn amsugno gwres o'r haul