Lleoliadau Monitro

Gellir dosbarthu safleoedd monitro yn ôl y math o amgylchedd, er mwyn gwerthuso data yn well. Yn gyffredinol, bydd y disgrifiad o´r safle yn adlewyrchu dylanwad ffynhonnell llygredd arbennig neu ddefnydd tir cyffredinol. Mae´r mathau o leoliadau monitro nodweddiadol, sy´n cael eu defnyddio mewn rhwydweithiau monitro awtomatig cenedlaethol, wedi´u disgrifio yn y tabl isod.

Disgrifiad Dylanwadau Ffynhonnell Amcanion
GWLEDIG
Lleoliad gwledig yn yr awyr agored, mewn ardal o boblogaeth isel mor bell i ffwrdd â phosib o ffyrdd, ardaloedd poblog a diwydiannol. Trafnidiaeth pell a rhanbarthol, colofn llygryddion trefol. Astudiaethau effaith ecosystemau. Asesu cydymffurfiad gyda llwythi critigol a lefelau ar gyfer cnydau a llystyfiant. Ymchwilio i drafnidiaeth rhanbarthol a phell. Nodi mannau lle mae'r osôn yn diodd.
TREFOL
Trefol Cerbydau, masnach, gwresogi gofod. Nodi tueddiadau trefol hirdymor.
OCHR CYRBAU
Samplu safle o fewn 1m i ochr ffordd brysur. Traffig lleol. Nodi mannau gwael o ran llygredd cerbydau. Asesu sefyllfaoedd gwaethaf posib. Gwerthuso effeithiau technolegau rheoli allyriadau cerbydau. Penderfynu effeithiau cynlluniau cynllunio/gostegu traffig.
PELL
Safle mewn gwlad agored, mewn ardal wledig anghysbell, sy'n profi crynodiadau llygredd rhanbarthol am lawer o'r amser. Cefndir rhanbarthol/hemisfferig. Asesu amodau cefndir hemisfferig neu fyd-eang .anllygredig. Astudiaethau trafnidiaeth pell. Dadansoddiad tuedd llinell sylfaen hirdymor.
OCHR FFYRDD
Samplu safle rhwng 1m o ochr cyrbau ffordd brysur a chefn y palmant. Fel arfer, bydd hyn o fewn 5m i'r ffordd, ond gallai fod hyd at 15m. Traffig lleol. Asesu'r sefyllfa waethaf bosib o ran cysylltiad â'r boblogaeth. Gwerthuso effeithiau rheolaethau allyriadau cerbydau. Penderfynu effeithiau cynlluniau cynllunio/gostegu traffig.
MAESTREFOL
Lleoliad mewn ardal breswyl ar gyrion tref neu ddinas. Traffig, masnach, gwresogi gofod, trafnidiaeth ranbarthol, colofn llygryddion trefol, i gyfeiriad y gwynt o.r ddinas. Cynlluniau traffig a defnydd tir. Ymchwilio colofn llygryddion trefol.
CEFNDIR TREFOL
Lleoliad trefol i ffwrdd o ffynonellau felly'n cynrychioli amodau cefndir dinesig yn fras e.e. ardaloedd preswyl trefol. Cerbydau, masnach, gwresogi gofod. Dadansoddi tuedd. Cynllunio trefol. Cynlluniau traffig a defnydd tir.
CANOLFAN DREFOL
Lleoliad trefol sy'n cynrychioli cysylltiad poblogaeth nodweddiadol yng nghanol trefi neu ddinasoedd e.e. llefydd i gerddwyr yn unig ac ardaloedd siopa. Cerbydau, masnach, gwresogi gofod. Nodi tueddiadau trefol hirdymor.
TREFOL DIWYDIANNOL
Ardal lle mae ffynonellau diwydiannol yn gwneud cyfraniad pwysig i'r llwyth llygredd cyfan. Canolradd. 20-30m o gwrb ffordd brysur. Diwydiant, cerbydau. Asesu effeithiau lleol ar iechyd ac amwynder. Cael y gorau o brosesau. Priodoli/nodi ffynonellau. Darparu data mewnbwn model. Datblygu/dilysu model. Cynllunio lleol ac awdurdodi gweithfeydd.
CANOLRADD
20-30m o gwrb ffordd brysur. Cerbydau, masnach, gwresogi gofod. Nodi tueddiadau trefol hirdymor.
MAES AWYR
Monitro o fewn ffin perimedr maes awyr. Awyrennau, cerbydau, masnach, gwresogi gofod. Penderfynu effaith y maes awyr ar ansawdd aer.
ARALL
Unrhyw gtegori lleoliad neu ffynhonnell arbennig yn cwmpasu monitro a wnaed mewn perthynas â ffynonellau allyriadau penodol fel gorsafoedd p?er, meysydd parcio neu dwnneli. Fel y nodwyd Fel y nodwyd