Dull | Manteision | Anfanteision |
---|---|---|
Samplu Goddefo | Cost isel/syml. Defnyddiol ar gyfer sgrinio ac astudiaethau llinell sylfaen ac i gefnogi monitro awtomatig yn achos Asesiadau Manwl. | Heb eu profi yn achos rhai llygryddion. Angen dadansoddiad labordy. Yn gyffredinol, darparu cyfartaledd wythnosol neu hirach yn unig. |
Systemau Synhwyrydd Cost Isel | Gellir ei ddefnyddio yn gyflym. Cost cymedrol, datrysiad amser uchel. | Gall sensitifrwydd isel ond ddarparu mesuriadau dangosol. Heb ei hachredu na'i gymeradwyo. |
Samplu Actif (Lled-Awtomatig) | Cost isel/hawdd i'w gweithredu -dibynadwy. Setiau data hanesyddol ar gael gan rwydweithiau´r DU. | Darparu cyfartaledd dyddiol. Rhai dulliau yn llafurddwys. Angen dadansosddiad labordy. |
Monitro Pwynt Awtomatiq | Darparu data cydraniad uchel. Posib casglu data ar-lein. Darparu data llwybr neu ddata amrediad. | Cymharol ddrud. Angen gweithiwr hyfforddedig. Costau gwasanaeth a chynnal a chadw rheolaidd. |
Monitro Optegol Pell/Llwybr Hir | Defnyddiol ger ffynonellau. Mesuriadau aml-elfen yn bosib. | Defnyddiol ger ffynonellau. Mesuriadau aml-elfen yn bosib. |
Samplu Goddefo
Dulliau (Tiwbiau Tryledu) - Mae’r rhain yn ddull syml a chost-effeithiol o fonitro ansawdd aer mewn ardal, i roi syniad cyffredinol da o grynodiadau llygredd cyfartalog. Maent, felly, yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer asesu yn erbyn amcanion cymedrig blynyddol. Cesglir sampl wedi’i integreiddio dros yr amser cyswllt trwy drylediad i’r samplwr. Mae’r gost isel fesul tiwb yn caniatáu samplu mewn sawl lle yn yr ardal o ddiddordeb; mae hyn yn ddefnyddiol o ran tynnu sylw at fannau problemus lle mae crynodiadau uchel, megis ar ochr priffyrdd. Maent yn llai defnyddiol ar gyfer nodi ‘mannau problemus’ o gwmpas ffynonellau pwynt neu ger lleoliadau diwydiannol lle mae angen datrysiad mwy tymhorol ar gyfer amcanion penodol. Mae arolygon tiwbiau tryledol yn syml i’w cynnal ac ychydig o hyfforddiant sydd ei angen ar weithredwyr. Mae tiwbiau tryledu ar gael ar gyfer y llygryddion canlynol yn y Strategaeth Ansawdd Aer:
|
Rhaid i’r tiwbiau gael eu dadansoddi gan labordai a all gynnig mesurau sicrhau ansawdd a rheoli ansawdd addas i sicrhau bod y canlyniadau’n bodloni’r amcanion ansawdd data a ddiffinnir ar gyfer y dull (cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Monitro i gael rhestr o gyflenwyr a dadansoddwyr tiwbiau tryledu). Gellir cywiro data tiwbiau tryledu ar gyfer unrhyw duedd yn y canlyniadau dadansoddol.
Systemau Synhwyrydd Cost Isel
Fel rheol, mae systemau synhwyrydd cost isel yn ddyfeisiau bach, pŵer isel, sy’n amrywio mewn pris o ychydig gannoedd o bunnoedd ar gyfer un llygrydd, i filoedd o bunnoedd ar gyfer system aml-lygrwr cyflawn. Maent yn cael eu pweru gan fatris gan amlaf a gellir eu defnyddio mewn mannau sefydlog (e.e. ynghlwm wrth bostyn lamp) neu fel offer llaw ar gyfer astudiaethau llygredd symudol.
Gallant ddarparu data cydrannol iawn o ran amser – munud neu lai ar gyfartaledd – ac oherwydd y costau is gellir defnyddio llawer mwy ohonyn nhw na dadansoddwyr awtomatig confensiynol.
Yn dibynnu ar y system a ddefnyddir, bydd angen cynnal a chadw parhaus a disgrifiadau rheolaidd i sicrhau ansawdd data rhesymol. Nid oes unrhyw un o’r systemau wedi cael ei phrofi’n ffurfiol o gwbl ac nid oes tystiolaeth hyd yma bod ansawdd y data a geir yn bodloni statws cywerthedd neu ddangosol, yn wahanol i’r systemau monitro eraill a ddisgrifir yma. Ond gyda gweithdrefnau rheoli ansawdd addas, gellir defnyddio’r synwyryddion yn llwyddiannus i nodi a mapio mannau problemus o ran llygredd ac amrywiadau llygredd dyddiol yn gost-effeithiol iawn.
Samplu Gweithredol (Lled-awtomatig)
Dulliau Samplu Mae’r dulliau hyn yn casglu samplau llygrol naill ai trwy ddulliau ffisegol neu gemegol i’w dadansoddi wedyn mewn labordy. Gan amlaf, mae cyfaint hysbys o aer yn cael ei bwmpio trwy gasglwr megis hidlydd neu doddiant cemegol am gyfnod hysbys o amser, i’w ddadansoddi yn y labordy wedyn. Mae’r rhain yn cynnwys samplwyr gyrru swigod ar gyfer sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid a samplwyr hidlo grafimetrig ar gyfer PM10 a phlwm. Mae cyfarpar dilyniannol gyda newidwyr samplau awtomatig ar gael.
Monitro Pwyntiau Awtomatig
Dyma’r systemau monitro ansawdd aer mwyaf soffistigedig (a’r rhai drutaf fel arfer). Mae dadansoddwyr awtomatig yn amsugno aer amgylchynol (o’r awyr agored), ac yn mesur crynodiad y llygrydd yn yr aer a gaiff ei samplu. Defnyddir technegau monitro awtomatig yng Nghymru ar gyfer ocsidau nitrogen, sylffwr deuocsid, carbon monocsid, osôn a mater gronynnol (PM10 a PM2.5). Mae dadansoddwyr cromatograffeg nwy (GC) yn darparu data cydraniad uchel hefyd ar bensen, ac 1,3- bwtaden. Mae systemau monitro ansawdd aer awtomatig yn cynhyrchu mesuriadau cydraniad uchel (cyfartaleddau cyfartalog bob awr neu fyrrach fel arfer), y gellir eu cyfleu i’r cyhoedd mewn amser real bron iawn, gan ddefnyddio telemetreg. Er mwyn sicrhau bod y data a gynhyrchir yn gywir ac yn ddibynadwy, mae angen safon uchel o weithredu, gan gynnwys cynnal a chadw rheolaidd, graddnodi a gweithdrefnau sicrhau ansawdd/rheoli ansawdd manwl.
Dangosir y safleoedd monitro awtomatig yng Nghymru ar y map ar hafan y wefan hon; i weld lefelau cyfredol llygryddion a manylion y safle, cliciwch ar farciwr y safle.
Dadansoddwyr Llwybr Hir/Optegol o Bell
Mae’r rhain yn declynnau sy’n defnyddio techneg spectroscopig llwybr hir i wneud mesuriadau amser real o grynodiad nifer o lygryddion sy’n cael eu hintegreiddio ar hyd llwybr rhwng ffynhonnell golau a synhwyrydd. Gellir defnyddio teclynnau sy’n defnyddio’r system Sbectrosgopeg Amsugno Optegol Gwahaniaethol (DOAS) i fonitro data ar gyfer nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid a bensen. Er mwyn sicrhau bod y data a gynhyrchir yn gywir ac yn ddibynadwy, mae angen safon uchel o gynnal a chadw, graddnodi, sicrwydd ansawdd a gweithredol a gweithdrefnau rheoli ansawdd.