Gellir dosbarthu safleoedd monitro yn ôl y math o amgylchedd, er mwyn gwerthuso data yn well. Yn gyffredinol, bydd y disgrifiad o´r safle yn adlewyrchu dylanwad ffynhonnell llygredd arbennig neu ddefnydd tir cyffredinol. Mae´r mathau o leoliadau monitro nodweddiadol, sy´n cael eu defnyddio mewn rhwydweithiau monitro awtomatig cenedlaethol, wedi´u disgrifio yn y tabl isod.
Disgrifiad | Dylanwadau Ffynhonnell | Amcanion |
---|---|---|
GWLEDIG | ||
Lleoliad gwledig yn yr awyr agored, mewn ardal o boblogaeth isel mor bell i ffwrdd â phosib o ffyrdd, ardaloedd poblog a diwydiannol. | Trafnidiaeth pell a rhanbarthol, colofn llygryddion trefol. | Astudiaethau effaith ecosystemau. Asesu cydymffurfiad gyda llwythi critigol a lefelau ar gyfer cnydau a llystyfiant. Ymchwilio i drafnidiaeth rhanbarthol a phell. Nodi mannau lle mae'r osôn yn diodd. |
TREFOL | ||
Trefol | Cerbydau, masnach, gwresogi gofod. | Nodi tueddiadau trefol hirdymor. |
OCHR CYRBAU | ||
Samplu safle o fewn 1m i ochr ffordd brysur. | Traffig lleol. | Nodi mannau gwael o ran llygredd cerbydau. Asesu sefyllfaoedd gwaethaf posib. Gwerthuso effeithiau technolegau rheoli allyriadau cerbydau. Penderfynu effeithiau cynlluniau cynllunio/gostegu traffig. |
PELL | ||
Safle mewn gwlad agored, mewn ardal wledig anghysbell, sy'n profi crynodiadau llygredd rhanbarthol am lawer o'r amser. | Cefndir rhanbarthol/hemisfferig. | Asesu amodau cefndir hemisfferig neu fyd-eang .anllygredig. Astudiaethau trafnidiaeth pell. Dadansoddiad tuedd llinell sylfaen hirdymor. |
OCHR FFYRDD | ||
Samplu safle rhwng 1m o ochr cyrbau ffordd brysur a chefn y palmant. Fel arfer, bydd hyn o fewn 5m i'r ffordd, ond gallai fod hyd at 15m. | Traffig lleol. | Asesu'r sefyllfa waethaf bosib o ran cysylltiad â'r boblogaeth. Gwerthuso effeithiau rheolaethau allyriadau cerbydau. Penderfynu effeithiau cynlluniau cynllunio/gostegu traffig. |
MAESTREFOL | ||
Lleoliad mewn ardal breswyl ar gyrion tref neu ddinas. | Traffig, masnach, gwresogi gofod, trafnidiaeth ranbarthol, colofn llygryddion trefol, i gyfeiriad y gwynt o.r ddinas. | Cynlluniau traffig a defnydd tir. Ymchwilio colofn llygryddion trefol. |
CEFNDIR TREFOL | ||
Lleoliad trefol i ffwrdd o ffynonellau felly'n cynrychioli amodau cefndir dinesig yn fras e.e. ardaloedd preswyl trefol. | Cerbydau, masnach, gwresogi gofod. | Dadansoddi tuedd. Cynllunio trefol. Cynlluniau traffig a defnydd tir. |
CANOLFAN DREFOL | ||
Lleoliad trefol sy'n cynrychioli cysylltiad poblogaeth nodweddiadol yng nghanol trefi neu ddinasoedd e.e. llefydd i gerddwyr yn unig ac ardaloedd siopa. | Cerbydau, masnach, gwresogi gofod. | Nodi tueddiadau trefol hirdymor. |
TREFOL DIWYDIANNOL | ||
Ardal lle mae ffynonellau diwydiannol yn gwneud cyfraniad pwysig i'r llwyth llygredd cyfan. Canolradd. 20-30m o gwrb ffordd brysur. | Diwydiant, cerbydau. | Asesu effeithiau lleol ar iechyd ac amwynder. Cael y gorau o brosesau. Priodoli/nodi ffynonellau. Darparu data mewnbwn model. Datblygu/dilysu model. Cynllunio lleol ac awdurdodi gweithfeydd. |
CANOLRADD | ||
20-30m o gwrb ffordd brysur. | Cerbydau, masnach, gwresogi gofod. | Nodi tueddiadau trefol hirdymor. |
MAES AWYR | ||
Monitro o fewn ffin perimedr maes awyr. | Awyrennau, cerbydau, masnach, gwresogi gofod. | Penderfynu effaith y maes awyr ar ansawdd aer. |
ARALL | ||
Unrhyw gtegori lleoliad neu ffynhonnell arbennig yn cwmpasu monitro a wnaed mewn perthynas â ffynonellau allyriadau penodol fel gorsafoedd p?er, meysydd parcio neu dwnneli. | Fel y nodwyd | Fel y nodwyd |