Pleser yw cyhoeddi bod yr adroddiad blynyddol diweddaraf ar ansawdd aer Cymru ar gael nawr.
Mae'r adroddiad yn ymdrin â gweithgarwch Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 2024/25 a datblygiadau polisi pwysig ers cyhoeddi'r adroddiad diwethaf yn 2024. Fel arfer, rydym yn adolygu'r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a goblygiadau o ran cydymffurfio â pholisïau, yn ogystal â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2024.
Mae'r maes o ddiddordeb arbennig eleni yn edrych ar brosiectau a gyflwynwyd gan Awdurdodau Lleol o dan y Gronfa Gymorth i Reoli Ansawdd Aer Lleol a gynhaliwyd yn 2024–2025. Mae'r bennod ar iechyd yn edrych ar ymwybyddiaeth o lygredd aer ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru.