Adroddiadau

ADRODDIAD GYNGHOROL AR AER GLÂN - Effeithiau'r Pandemig Covid-19 ar ansawdd aer yng Nghymru

Published Date: 13/01/2021

Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r adroddiad cyntaf a gyhoeddwyd gan y Panel Cynghori Ar Aer Glân. Mae'r Panel yn grŵp annibynnol ac arbenigol sy'n rhoi cyngor ac argymhellion i Lywodraeth Cymru ar faterion ansawdd aer yng Nghymru.

Mae'r Panel wedi ystyried cwestiynau allweddol a ofynnwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch newidiadau mewn ansawdd aer yn ystod y pandemig Covid-19 rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020 yn ogystal â chwestiynau ynghylch gweithredu mesurau ymyrryd.

Cyhoeddi adroddiad 2019 ar Lygredd Aer yng Nghymru

Published Date: 22/10/2020

Mae’n dda gennym gyhoeddi bod yr adroddiad blynyddol diweddaraf ar ansawdd aer yng Nghymru wedi’i gyhoeddi.

Mae’r adroddiad yn cynnwys gweithgarwch Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 2019 a datblygiadau polisi pwysig ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf yn 2019. Fel arfer, rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisïau yn ogystal â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2019.

Eleni, mae’r maes diddordeb arbennig yn edrych ar effeithiau Covid-19 ar ansawdd aer Cymru. Mae’r bennod ar iechyd yn edrych ar adnodd newydd asesu risg Iechyd y Cyhoedd ar gyfer ansawdd aer awyr agored yng Nghymru.

Dadansoddiad o effaith cyfyngiadau symud Covid-19 ar Ansawdd Aer lleol yng Nghymru

Published Date: 06/08/2020

Ar ôl cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru, fe aeth Llywodraeth Cymru ati i gomisiynu adolygiad o’r effaith ar ansawdd aer yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Mae’n dda gennym gyhoeddi dadansoddiad cychwynnol o’r data hwn gan Rwydwaith Ansawdd Aer Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Mai 2020, ynghyd â dadansoddiad o’r data o safbwynt iechyd y cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad cychwynnol yn amlinellu tueddiadau mewn data Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10, PM2.5 a Charbon Du yn ystod cyfnod yr adroddiad.