Adroddiadau

Cyhoeddi adroddiad 2022 ar Lygredd Aer yng Nghymru

Published Date: 28/11/2023

Mae’n dda gennym gyhoeddi bod yr adroddiad blynyddol diweddaraf ar ansawdd aer yng Nghymru wedi’i gyhoeddi.

Mae’r adroddiad yn cynnwys gweithgarwch Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 2022/23 a'r datblygiadau polisi pwysig ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf yn 2022. Yn ôl yr arfer, rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisïau yn ogystal â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2022.

Mae'r maes diddordeb arbennig eleni yn edrych ar ail rownd y Gronfa Gymorth Rheoli Ansawdd Aer Lleol a gynhaliwyd yn 2022–2023. Mae'r bennod iechyd yn rhoi adolygiad o Ansawdd Aer ac Iechyd y Cyhoedd yn 2022/23.

Cyhoeddi adroddiad 2021 ar Lygredd Aer yng Nghymru

Published Date: 27/10/2022

Mae’n dda gennym gyhoeddi bod yr adroddiad blynyddol diweddaraf ar ansawdd aer yng Nghymru wedi’i gyhoeddi.

Mae’r adroddiad yn cynnwys gweithgarwch Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 2021 a datblygiadau polisi pwysig ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf yn 2021. Fel arfer, rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisïau yn ogystal â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2021.

Eleni, mae ein hadroddiad ar bwnc o ddiddordeb arbennig canolbwyntio ar gynllun grant Rheoli Ansawdd Aer Lleol cyntaf Cymru a lansiwyd ym mlwyddyn ariannol 2021 – 2022.

Mae'r bennod ar iechyd yn rhoi adolygiad o Ansawdd Aer ac Iechyd y Cyhoedd yn 2021.

Cyhoeddi adroddiad 2020 ar Lygredd Aer yng Nghymru

Published Date: 07/10/2021

Mae’n dda gennym gyhoeddi bod yr adroddiad blynyddol diweddaraf ar ansawdd aer yng Nghymru wedi’i gyhoeddi.

Mae’r adroddiad yn cynnwys gweithgarwch Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 2020 a datblygiadau polisi pwysig ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf yn 2020. Fel arfer, rydym yn adolygu’r tueddiadau diweddaraf mewn mesuriadau llygredd aer a’r goblygiadau ar gyfer cydymffurfio â pholisïau yn ogystal â mapiau Ansawdd Aer ar gyfer NO2, O3, PM10 a PM2.5 yn 2020.

Eleni, mae ein hadroddiad ar bwnc o ddiddordeb arbennig yn edrych ar Ddyfarniad yr Ail Gwest Pwysig sy'n dangos bod Llygredd Aer wedi cyfrannu at farwolaeth Ella Adoo-Kissi-Debrah, merch 9 oed, yn Llundain. Mae'r bennod ar iechyd yn rhoi adolygiad o Ansawdd Aer ac Iechyd y Cyhoedd yn 2020.