Gwasanaethau Arsylwi Synwyryddion (SOS)

Gwasanaeth Arsylwi Synwyryddion Aer Cymru

Mae’r dudalen we hon ar gyfer aelodau o’r cymunedau gwyddonol a datblygwyr sydd â diddordeb mewn swmp lawrlwythiadau data a lawrlwythiadau data awtomatig mewn fformatau sy’n ddarllenadwy gan beiriannau.

Mae Gwasanaeth Arsylwi Synwyryddion (SOS) Aer Cymru yn darparu pwynt mynediad sy’n ddarllenadwy gan beiriannau ar gyfer mesuriadau llygredd aer ar wefan Ansawdd Aer Cymru.

Mae SOS Aer Cymru yn seiliedig ar safon Gwasanaeth Arsylwi Synwyryddion y Consortiwm Daearofodol Agored (OGC), sydd wedi’i hymestyn i gydymffurfio â manylebau gwasanaeth lawrlwytho INSPIRE. Mae’r gwasanaeth yn darparu rhyngwyneb math API i ddata mesuriadau Aer Cymru ar gyfer datblygwyr ac yn trosglwyddo data rhwng peiriannau mewn fformatau data agored, sy’n ddarllenadwy gan beiriannau. Ni fwriedir y gwasanaeth ar gyfer y cyhoedd na defnyddwyr data ansawdd aer bwrdd gwaith traddodiadol. Rydym yn parhau i argymell yr adnoddau ar archif data Aer Cymru ar gyfer gweithgareddau bwrdd gwaith.

Galluoedd SOS

Mae’r SOS yn cyfuno darlleniadau o orsafoedd monitro ansawdd aer byw ar safleoedd, ac yn darparu rhyngwyneb i sicrhau bod synwyryddion ac archifau data synwyryddion yn hygyrch trwy ryngwyneb rhyngweithredol ar y we. Mae’r SOS wedi’i sefydlu ar weithrediad SOS 52° Gogledd sy’n gydnaws â fersiynau 1.00 a 2.0.0 OGC SOS a model data e-Adrodd Ansawdd Aer Ewrop (AQD fersiwn 1.0.0). Cynhelir REST API hefyd.

Mae manyleb 2.0 OGC SOS yn diffinio pedwar estyniad, ac mae tri wedi’u cynnwys yn SOS Aer Gogledd Iwerddon: Craidd, Uwch a Thrin Canlyniadau. Nid yw’r estyniadau Rhyngweithredol wedi’u gweithredu.

Mae disgrifiad llawn o alluoedd SOS Aer Cymru i’w weld yn y man terfyn trwy ddefnyddio cais GetCapabilities. Mae disgrifiad cryno wedi’i gynnwys isod.

Estyniad Craidd

Estyniad Uwch

  • GetFeatureOfInterest, i wneud cais am bortread wedi’i amgodio GML 3.2.1 o’r nodwedd yr arsylwir arno.
  • GetObservationById, i wneud cais am ddata synwyryddion pur ar gyfer dyfais adnabod arsylwi benodol.

Estyniad Rhyngweithredol

  • Heb ei weithredu.

Estyniad Trin Canlyniadau

  • InsertResultTemplate, heb ei weithredu.
  • InsertResult, heb ei weithredu.
  • GetResultTemplate, ar gyfer strwythur y canlyniad ac amgodio ar gyfer clystyrau paramedr penodol.
  • GetResult, i sicrhau’r data craidd ar gyfer clystyrau paramedr penodol.

I gael rhagor o wybodaeth am fanyleb SOS 2.0, ewch i diwtorial swyddogol 2.0 OGC SOS

Cysylltiadau a Gefnogir

Mae cysylltiad yn disgrifio sut mae cleientiaid a gweinyddwyr SOS yn gallu cyfathrebu â’i gilydd (OGC#12-006). Mae’r cysylltiadau canlynol wedi’u cynnal gan SOS Aer Cymru.

  • KVP – Amgodio Pâr Gwerth Allweddol o geisiadau drwy HTTP GET.
  • SOAP - Protocol Asesu Gwrthrych Syml (SOAP) ar sail amgodio pob estyniad drwy HTTP POST.
  • POX – Amgodio Hen XML Plaen o’r holl estyniadau drwy HTTP POST (heb lapio SOAP).
  • REST – Cysylltiad RESTful Trosglwyddo Cyflwr Cynrychiolaeth ar gyfer holl weithrediadau defnyddiol o adnoddau sydd ar gael yn yr SOS. Lawrlwythwch y dogfennau (PDF 880 KB).
  • JSON – Amgodio Nodiant Gwrthrych Java Script o’r holl estyniadau drwy HTTP POST.
  • EXI – Amgodio Format 1.0 Cyfnewidfa XML Effeithlon (EXI) o’r holl estyniadau drwy HTTP POST a chais amgodio POX. Nid yw cysylltiadau EXI yn darparu ar gyfer ceisiadau SOAP ar hyn o bryd.

Sylw i lygryddion

Mae rhestr o’r llygryddion sydd wedi’u cynnwys yn SOS Aer Cymru wedi’i darparu ar dudalen Llygryddion SOS.

Cwestiynu’r SOS

Mae rhai enghreifftiau o sut mae modd cwestiynu’r SOS wedi’u cynnwys mewn dau gysylltiad cyffredin (KVP a JSON) sydd ar gael i ddefnyddwyr gwefan SOS. Bydd enghreifftiau sy’n berthnasol i’r gwasanaeth hwn yn ymddangos maes o law. Hefyd, mae enghreifftiau ar gael ar gyfer REST API.