Cofrestr Gwrthrychau Gofodol

Gwrthrychau Gofodol – Aer Cymru

Mae’r dudalen we hon ar gyfer aelodau o’r cymunedau gwyddonol a datblygwyr sydd â diddordeb mewn swmp lawrlwythiadau data a lawrlwythiadau data awtomatig mewn fformatau sy’n ddarllenadwy gan beiriannau.

Mae Cofrestr Gwrthrychau Gofodol Aer Cymru yn adnodd ar gyfer gweld ac adalw gwybodaeth am wrthrychau / nodweddion ansawdd aer daliadau data Aer Cymru. Mae’n gweithredu fel cyfeiriadur ar gyfer holl wrthrychau gofodol a data ansawdd aer a reolir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r gofrestr yn defnyddio model newydd a geirfa data e-Adrodd Ansawdd Aer Ewrop. Un o fanteision y model hwn yw ei fod yn creu fformat unedig ar lefel Ewrop gyfan ar gyfer rhannu data sy’n cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb INSPIRE. Oddi mewn i’r model data, mae amrywiaeth o wrthrychau gofodol a data (rhwydweithiau monitro ansawdd aer, gorsafoedd ac ati) wedi’u diffinio i ddisgrifio eu priodoleddau.

Mae pob gwrthrych gofodol yn cael ei nodi’n unigryw trwy ddefnyddio nodiant adnabod HTTP unigryw. Hefyd, mae’r cynllun adnabod hwn yn creu cyfeiriad HTTP dilys ar gyfer pob gwrthrych gofodol ac mae’r Gofrestr Gwrthrychau Gofodol yn helpu i ddarparu’r cyfeiriadau HTTP hyn fel bod modd gweld data priodoleddau pob gwrthrych yn HTML neu ei lawrlwytho fel XML.

Mae rhestr o’r gwrthrychau gofodol a’r gwrthrychau data ansawdd aer diweddaraf a reolir gan Aer Cymru ac a gofrestrir i http://www.airquality.gov.wales/data/so wedi’i darparu trwy’r dolenni yn y tabl isod.

Gwrthrychau gofodol a data Ansawdd Aer Disgrifiad
Rhwydweithiau Ansawdd Aer Casgliad o orsafoedd monitro sydd â diben cyffredin
Gorsafoedd Monitro Ansawdd Aer Cyfleuster ag un neu fwy o fannau samplu sy’n mesur crynodiadau llygryddion ansawdd aer yr amgylchedd
Mannau Samplu Monitro Ansawdd Aer Offeryn neu ddyfais arall wedi’i ffurfweddu i fesur ansawdd aer
Ffurfweddiadau Mannau Samplu Monitro Ansawdd Aer Ffurfweddu dyfais dadansoddi, samplu neu ddyfais benodol arall a ddefnyddir i fesur llygrydd ansawdd aer
Samplau Monitro Ansawdd Aer Y gwrthrych go iawn sy’n cael ei samplu

Adrodd ar Ansawdd Aer yn Electronig a Phorth Ansawdd Aer EIONET

O ganlyniad i gyflwyno Penderfyniad Gweithredu y Comisiwn Ewropeaidd 2011/850/EU ar 12 Rhagfyr 2011 (sy’n pennu rheolau ar gyfer y Gyfarwyddeb Ansawdd Aer yn ymwneud â chyfnewid gwybodaeth ac adrodd ar ansawdd aer yr amgylchedd), roedd cyfle i foderneiddio’r broses o adrodd data er mwyn hwyluso’r gwaith o rannu gwybodaeth, gwella ansawdd data a lleihau’r baich gweinyddol drwy adrodd yn awtomatig. Fel rhan o’r rhaglen foderneiddio, mae Adrodd ar Ansawdd Aer yn Electronig wedi mabwysiadu fformatau digidol seiliedig ar TG ar gyfer adrodd, gan ddefnyddio’r rhyngrwyd fel y prif gyfrwng ar gyfer adrodd. Mae hyn wedi sicrhau bod y broses o rannu data ansawdd aer yn cyd-fynd â mentrau Data Agored y llywodraeth a rhwymedigaethau INSPIRE.

Mae’r rhaglen Adrodd ar Ansawdd Aer yn Electronig yn cael ei chefnogi gan Borth Ansawdd Aer EIONET sy’n darparu amrywiaeth o wybodaeth gefndir, canllawiau ac adnoddau i hyrwyddo’r broses o rannu gwybodaeth am ansawdd aer mewn ffordd safonedig gan gynnwys:

  • Mae gwybodaeth am y model data a’r sgema XML ar gael ar dudalen model data​ Porth Ansawdd Aer EIONET
  • Mae rheolau rhagnodedig a setiau data meincnodi i safoni ystadegau cyfanredol ar gael ar dudalen gydgasglu Porth Ansawdd Aer EIONET (cyfyngedig i ystadegau cyfanredol Ewropeaidd).
  • Mae geirfa a reolir ar gyfer ansawdd aer wedi’i disgrifio ar dudalen rhestri codau Porth Ansawdd Aer EIONET​

Cynnal y gofrestr

Mae’r gofrestr hon yn cael ei rheoli a’i chynnal gan Ricardo Energy & Environment​ ar ran Llywodraeth Cymru.

Trwyddedu

Cyhoeddir gwrthrychau gofodol a data arsylwadol Aer Cymru o dan Trwydded Llywodraeth Agored (OGL) ac mae’r telerau sy’n cael eu disgrifio yn “nhrwydded” neu “gyfyngiadau” yr OGL yn berthnasol iddynt. O dan yr OGL mae gennych chi hawl i:

  • gopïo, cyhoeddi, dosbarthu a throsglwyddo’r wybodaeth.
  • addasu’r wybodaeth.
  • defnyddio’r wybodaeth at ddibenion masnachol ac anfasnachol, er enghraifft, trwy ei chyfuno â gwybodaeth arall, neu drwy ei chynnwys yn eich cynnyrch neu’ch cymhwysiad eich hun.

Ar gyfer unrhyw un o’r uchod, mae’n rhaid i chi gydnabod Llywodraeth Cymru a http://www.welshairquality.co.uk/index.php?t=&n_action=&lg=w fel ffynhonnell y wybodaeth drwy gynnwys y datganiad priodoli canlynol mewn adroddiadau, tudalennau gwe neu gynhyrchion data deilliannol, a chynnwys dolen i’r drwydded OGL os oes modd.

© Y Goron 2016, hawlfraint Llywodraeth Cymru, wedi’i thrwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL).
Mae’r data a’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r wefan hon yn cael eu diogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Darllenwch dudalen hawlfraint y Goron ar gyfer rhagor o wybodaeth. Hefyd, gweler https://www.gov.uk/support/terms-conditions