Data Monitro
Mae Rhwydweithiau Awtomatig yn cynhyrchu crynodiadau llygredd bob awr, gyda data yn cael ei gasglu o safleoedd unigol trwy fodem ffonio. Mae'r data yn mynd yn ðl cyn belled ag 1986 mewn rhai safleoedd. Trwy glicio ar y map ar hafan y wefan hon gallwch gael gwybodaeth fanwl am bob safle sy'n weithredol ar hyn o bryd.
Mae Rhwydweithiau Anawtomatig yn mesur data yn llai aml yn ddyddiol, wythnosol neu'n fisol a bydd samplau'n cael eu casglu trwy ddull ffisegol (fel tiwb tryledu neu hidlydd). Bydd y samplau hyn yn cael eu dadansoddi'n gemegol, a'r crynodiadau llygredd terfynol yn cael eu cyfrif o'r canlyniadau hyn.
Ystadagau Syml
Mae amrywiaeth o ystadegau syml yn cael eu cyfrif yn rheolaidd gan y gronfa ddata ar gyfer y data monitro awtomatig bob nos. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Gwerthoedd cymedr, uchaf ac isaf pob llygrydd yn ddyddiol.
- Gwerthoedd cymedr 8 awr parhaus ar gyfer osðn a charbon monocsid.
- Uchafswm dyddiol cymedrau 8 awr parhaus ar gyfer osôn.
- Cymedr 24 awr parhaus ar gyfer deunydd gronynnog PM10.
Allbwn Data
Mae yna dair ffordd o gyflwyno'r gronfa ddata, yn dibynnu ar faint y cais am ddata. Gellir arddangos ymholiadau byr ar y sgrn gan ddefnyddio ychydig o HTML, gellir anfon ymholiadau maint cymedrol ar e-bost i chi fel ymgysylltiad mewn fformat sy'n cael ei wahanu gan goma, neu bydd yr ymholiadau mwyaf yn cael eu cadw ar safle ftp, hefyd mewn fformat sy'n cael ei wahanu gan goma, i chi eu casglu. Bydd y data ar safle ftp yn cael ei ddileu o fewn saith diwrnod os na fyddwch yn ei gasglu.
Dylech allu llwytho'r ffeil i daenlen yn hawdd ar ðl ei harbed i'ch peiriant chi yn sgil y fformat gwahanu efo coma. Os nad yw'r rhaglen yn adnabod y fformat yn awtomatig, bydd angen i chi newid math y ffeil i Texta'r gwahanydd fel Commayn achos Lotus, neu ailenwi'r ffeil i [ENW].csv gydag Excel.