Sut rydym ni’n cyfrifo lefelau llygredd
Mae’r cyfrifiannell hwn yn rhoi gwybodaeth am y cyfanswm blynyddol o ocsidau nitrogen (NOx) a deunydd gronynnol mân (PM10) sy’n cael ei rhyddhau i’r aer gan eich teithiau yn ôl ac ymlaen i’r ysgol mewn blwyddyn.
I gyfrifo faint o bob llygrydd sy’n cael ei ryddhau i’r aer gan eich teithiau ysgol rydym ni’n defnyddio ffactorau allyriadau cerbydau sy’n seiliedig ar ein dealltwriaeth gyfredol o allyriadau o gerbydau yn Cymru.
Caiff y ffactorau eu defnyddio i gyfrifo cyfraddau allyrru llygryddion mewn gramau am bob pellter a deithir mewn gwahanol fathau o gerbydau. Yna caiff y gyfradd allyriadau ei lluosi gan nifer y teithiau yn ôl ac ymlaen i’r ysgol mewn blwyddyn; a’i rhannu gan nifer y teithwyr yn y cerbyd er mwyn cyfrifo allyriad blynyddol y pen ar gyfer pob llygrydd mewn gramau.
Yr hafaliad ar gyfer y cyfrifiad yw:
Tybiaethau yn y cyfrifiannell
Mae ystod eang o newidynnau’n cael eu defnyddio wrth gyfrifo allyriadau llygryddion cerbydau felly mae rhai tybiaethau wedi’u gwneud ar gyfer y cyfrifiannell allyriadau syml hwn fel a ganlyn:
- Caiff pob cyfradd allyriadau cerbyd ei chyfrifo ar sail y ddealltwriaeth gyfredol o gymysgedd oedran y fflyd cerbydau yng Nghymru yn 2014
- Tybir bod bysiau ysgol yn rhai deulawr ac yn cludo 60 o deithwyr ar gyfartaledd
- Mae cyfrifiadau allyriadau blynyddol yn seiliedig ar flwyddyn ysgol nodweddiadol o 190 diwrnod.
- Cyflymder cyfartalog taith ysgol fydd 30mya mewn ardal drefol