Mynediad Data

Nod Citizen Science yw eich galluogi i gasglu a dadansoddi data llygredd aer fel prosiect ysgol. Rydym am i chi gymryd rhan yn y gwaith o ddysgu sut beth yw’r llygredd aer yn eich ardal a sut mae’n effeithio arnoch chi a’ch amgylchedd.
Ar ôl i’ch ysgol gofrestru, byddwch yn derbyn pecyn Citizen Science a fydd yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i gychwyn eich prosiect ysgol ac yn eich helpu chi i glirio’r aer!
Os nad yw’ch ysgol yn rhan o’r prosiect Citizen Science, ond eich bod yn awyddus iddi fod, anfonwch e-bost i cysylltwch â ni i siarad â ni!

Cymerwch ran i:

  • gael profiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar monitro gwyddonol
  • dysgu sut i fewnbynnu eich data gwyddonol a chreu map o’ch canlyniadau
  • dysgu am lygredd aer a’r effaith y mae’n ei chael ar eich iechyd a’r amgylchedd
  • dysgu sut i newid y ffordd rydych chi’n teithio i’r ysgol a sut y gall hyn gael effaith gadarnhaol ar lygredd aer yn eich ardal

Eisoes yn cymryd rhan?

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer Citizen Science, gallwch gofrestru gan ddefnyddio’r ffurflen isod:

Rhoi eich enw defnyddiwr Drupal
Rhowch gyfrinair i mewn sydd yn mynd gyda'ch enw defnyddiwr.